Agenda and minutes

Cabinet - Dydd Mercher, 21ain Chwefror, 2024 10.00 am

Lleoliad: Ar MS Teams

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais am hynny.

 

Cofnodion:

Nodwyd na chafwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Derbyn unrhyw ddatganiadau buddiant neu oddefebau.

 

Cofnodion:

Ni wnaed unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.

 

4.

Cabinet pdf icon PDF 86 KB

Ystyried penderfyniadau cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 10 Ionawr 2024.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i benderfyniadau cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 10 Ionawr 2024.

 

PENDERFYNWYD derbyn y penderfyniadau fel cofnod gywir o’r trafodion.

 

5.

Cynadleddau, Cyrsiau a Digwyddiadau pdf icon PDF 82 KB

Ystyried cynadleddau, cyrsiau a digwyddiadau.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i’r dilynol:

 

Partïon Gardd Brenhinol 2024

Partïon Gardd Brenhinol - Llundain

8 Mai 2024 a 21 Mai 2024

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo un enwebai ynghyd â gwestai i fynychu naill ai ar 8 Mai neu 21 Mai 2024.

 

6.

Blaenraglen Gwaith – 10 Ebrill 2024 pdf icon PDF 85 KB

Derbyn y flaenraglen gwaith.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Swyddog Craffu a Democrataidd.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.

 

7.

Grantiau i Sefydliadau pdf icon PDF 72 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Cafwyd y grantiau dilynol yn dilyn cyhoeddi’r adroddiad.

 

ABERTYLERI

 

Ward Llanhiledd - Cynghorydd N. Parsons

 

 

1.

Pyllau a Choetiroedd Rhiw Beaufort

     £125

 

BRYNMAWR

 

Ward Brynmawr - Cynghorydd J. Hill

 

 

1.

Cymdeithas Amgueddfa Brynmawr a’r Cylch

£88

 

Ward Brynmawr - Cynghorydd W. Hodgins

 

 

1.

Piranhas Abertyleri

£100

2.

Pêl-droed Dan 10 Nantyglo

£100

3.

Cwmni Theatr Gerddorol Brynmawr

£200

4.

Mini Rygbi Nantyglo

£100

5.

Clwb Pêl-droed Brynmawr

£100

6.

Clwb Rygbi Brynmawr

£150

7.

Interact Gogledd Ebwy Fach

£100

8.

Cymdeithas Amgueddfa Brynmawr a’r Cylch

£200

 

GLYNEBWY

 

Ward Beaufort - Cynghorydd C. Smith

 

 

1.

Gr?p Cymunedol Glyncoed

£100

2.

Goleuadau Nadolig Beaufort

£100

3.

Amgueddfa Gweithfeydd Glynebwy

£100

4.

Sgwadron 1158 Glynebwy Cadetiaid Awyr Awyrlu Brenhinol

£110

 

Ward Beaufort - Cynghorydd D. Woods

 

 

1.

Dosbarth Crefftau Menywod Beaufort

£100

2.

Clwb Rygbi Beaufort

£100

3.

Cangen Rasa a Beaufort y Lleng Brydeinig Frenhinol

£100

4.

Goleuadau Nadolig Beaufort

£200

5.

One Life Autism

£100

6.

Pyllau a Choetiroedd Rhiw Beaufort

£100

7.

Côr Meibion Beaufort

£100

8.

2il Gr?p Sgowtiaid Beaufort a Rasa

£100

9.

Dawns Ffin

£100

10.

Beaufort Hearts

£100

11.

Clwb Rhieni ac Athrawon Ysgol Gynradd Trehelyg

£100

12.

Gr?p Cymunedol Glyncoed

£200

13.

Ysgol Gynradd Rhiw Beaufort

£260

 

Ward Gogledd Glynebwy - Cynghorydd J. Morgan

 

 

1.

Clwb Rygbi RTB Glynebwy

£160

2.

One Life Autism

£200

 

NANTYGLO A BLAENAU

 

Ward Blaenau - Cynghorydd J.P. Morgan

 

 

1.

Clwb Criced Blaenau

£960

 

PENDERFYNWYD yn unol â hynny.

 

PENDERFYNWYD YMHELLACH, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr

adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.

 

 

8.

Strategaeth Gweithlu 2021-2026 pdf icon PDF 131 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad. Adolygodd y Cabinet a nodi’r cynnydd ar gynllun cyflenwi 2022/23 a chymeradwyo cynllun cyflenwi 2023/25 (Opsiwn 1).

 

9.

Monitro’r Gyllideb Cyfalaf, Rhagolwg ar gyfer Blwyddyn Ariannol 2023/24 (fel ar 31 Rhagfyr 2023) pdf icon PDF 143 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a rhoddodd Aelodau yr her briodol i’r deilliannau ariannol yn yr adroddiad, parhau i gefnogi gweithdrefnau rheoli ariannol priodol a gytunwyd gan y Cyngor a nodi’r gweithdrefnau rheoli a monitro’r gyllideb sydd yn eu lle o fewn y Tîm Cyfalaf i ddiogelu cyllid yr Awdurdod (Opsiwn 1).

 

10.

Monitro Cyllideb Refeniw 2023/2024 Rhagolwg Alldro hyd at 31 Mawrth 2024 (fel ar 31 Rhagfyr 2023) pdf icon PDF 170 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

MONITRO’R GYLLIDEB REFENIW 2023/2024

RHAGOLWG ALL-DRO HYD AT 31 MAWRTH 2024

(FEL AR 31 RHAGFYR 2023)

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a rhoddodd Aelodau yr her priodol i’r deilliannau ariannol yn yr adroddiad, nodi gweithredu cronfeydd wrth gefn a herio’r Cynlluniau Gweithredu fel y’u manylir yn Atodiad 2 (Opsiwn 1).

 

11.

Ffioedd a Chostau Disgresiwn 2024/2025 pdf icon PDF 159 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad ac argymhellodd y Cyngor Opsiwn 2 i’r Cyngor, fel sy’n dilyn:-

 

(1)  cymeradwyo’r gofrestr o Ffioedd a Thaliadau ar gyfer 2024/2025 a fanylir yn Atodiad 1 ac am ffioedd a thaliadau disgresiwn, fel sy’n dilyn:-

(a)    cynnydd ffioedd o 5% yn unol â’r achos busnes arfaethedig a fanylir yn Atodiad 4;

(b)    y ffi amgen a gynigiwyd fel y fanylir ym mharagraffau 5.1.4 i 5.1.14 yr adroddiad; a

(c)     y Ffioedd Cynllunio a roddir yn Atodiad 2.

 

(2)   cymeradwyo p?er a chyfrifoldeb a ddirprwywyd i Gyfarwyddwr Interim Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer gosod y ffioedd a thaliadau ar gyfer 2024/2025 yn ymwneud â darpariaeth gofal cymdeithasol allanol a fanylir ym mharagraff 5.1.6 yr adroddiad; a

 

(3)  cymeradwyo’r cynnydd mewn prisiau craidd yn gysylltiedig ag Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin fel y manylir yn Atodiad 3.

 

12.

Cyllideb Refeniw 2024/2025 pdf icon PDF 237 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chytuno ar Opsiwn 1, fel sy’n dilyn:-

 

1)    Yn amodol ar y penderfyniadau ar yr argymhellion dilynol, ystyriodd Aelodau ac argymell cyllideb refeniw 2024/2025 i’r Cyngor fel y dangosir yn y tabl ym mharagraff 5.1.5 yr adroddiad.

 

2)    Rhoddodd Aelodau sylwadau ar y deilliannau o fewn Setliad RSG darpariaethol cyffredinol a nodi’r potensial am newid pellach yn y Setliad RSG terfynol (paragraffau 2.16 – 2.17 yr adroddiad).

 

3)    Rhoddodd Aelodau sylw ar y deilliannau o fewn Setliad RSG darpariaethol CBSBG a’i effaith ar y Strategaeth Ariannol Tymor Canol (paragraffau 2.18 – 2..26 yr adroddiad).

 

4)    Ystyriodd Aelodau ac argymell i’r Cyngor y pwysau cost wedi eu diweddaru ac eitemau twf (cyfanswm o £2.8m) a fanylir yn Atodiad 2 (paragraffau 5.1.10 – 5.1.16 yr adroddiad) i’w cynnwys yng nghyllideb y Cyngor.

 

5)    Ystyriodd Aelodau ac argymell i’r Cyngor gynigion Pontio’r Bwlch (mae crynodeb yn Atodiad 3 ac amlinellir Achosion Busnes yn Atodiad 4) yn darparu o leiaf £6.27m o arbedion ariannol a thoriadau cyllideb tuag at ddiwedd y bwlch cyllideb (paragraffau 5.1.32 i 5.1.37 yr adroddiad).

 

6)    Ystyriodd Aelodau ac argymell i’r Cyngor lefel y cyllid a ddarperir i ysgolion (paragraff 5.1.19 – 5.1.27 yr adroddiad).

 

7)    Argymhellodd y Cyngor fod unrhyw grant/iau sy’n trosglwyddo i’r Sefydliad Terfynol ar gyfer 2024/2025 yn cael eu pasportio i’r gwasanaeth/au perthnasol.

 

8)    Ystyriodd Aelodau ac argymell i’r Cyngor ddefnyddio cronfeydd wrth gefn hyd at £2.1m i gael cyllideb gytbwys ar gyfer 2024/2025 (paragraffau 5.1.38 i 5.1.42 yr adroddiad). Byddai’r lefel yn amodol at yr argymhellion ym mharagraffau 3.1.5 a 3.1.6 uchod.

 

9)    Ystyriodd yr Aelodau ac argymell i’r Cyngor gynnydd o isafswm o 5% yn y Dreth Gyngor ar gyfer 2024/25 (paragraff 5.1.10 yr adroddiad) yn unol ag Achos Busnes CS12 (manylion yn Atodiad 3 a 4).

 

10)Cymeradwyo’r Strategaeth Ariannol Tymor Canol wedi ei diweddaru ar gyfer 2024/2025 i 2028/2029 fel y manylir yn Atodiad 5.

 

 

13.

Trosolwg o Barthau Teledu Cylch Cyfyng Canol Tref Blaenau Gwent 2023/24 pdf icon PDF 164 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Polisi a Phartneriaethau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Polisi a Phartneriaethau.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod y Cabinet yn cymeradwyo’r Codau Ymarfer a ddiweddarwyd ar gyfer 2023/24 (Opsiwn 1):-

 

Argymhelliad 2: Ystyriodd  y Cabinet yr arferion a’r trefniadau gweithredu cyfredol gyda Chyngor Caerffili ac IDS; ac

 

Argymhelliad 3: Cytuno i ystyried Adroddiad Blynyddol 2023/24 fel rhan o flaenraglen gwaith y pwyllgor ar gyfer 2024/25.

 

 

14.

Adroddiad Perfformiad Cynnydd 6-mis Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Addysg Ebrill 23 – Medi 23 pdf icon PDF 117 KB

Ystyried adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Addysg.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Addysg.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo (Opsiwn 2).

 

15.

Rhaglen Dreigl Cymunedau Dysgu Cynaliadwy pdf icon PDF 177 KB

Ystyried adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Addysg.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Addysg.

 

PENDERFYNWYD derbyn a chymeradwyo’r adroddiad a chyflwyno cynigion Rhaglen Dreigl Cymunedau Dysgu Cynaliadwy i Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth 24 (Opsiwn 1).

 

16.

Deilliannau Cyfnod Allweddol 4 2023 pdf icon PDF 447 KB

Ystyried aeroddiad Cyfarwyddwr corfforaethol Interim Addysg.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Addysg.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo (Opsiwn 1).

 

 

17.

Adroddiad Blynyddol 2023/24 (Chwarteri 1 a 2) Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol. pdf icon PDF 128 KB

Ystyried adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo (Opsiwn 2).

 

18.

Gwybodaeth Diogelu Perfformiad ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol 1 Ebrill i 30 Medi ac Addysg Tymor Haf-2023 pdf icon PDF 202 KB

Ystyried adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Chyfarwyddwr Corfforaethol Interim Addysg.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i’r adroddiad ar y cyd gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Addysg.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a rhoddwyd sylwadau ar ble y gellid gwneud gwelliannau i’r prosesau monitro presennol (Opsiwn 2).

 

19.

Perfformiad Cyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymunedol ac Adfywio – Chwarteri 1 a 2 - 2023/24 pdf icon PDF 147 KB

Ystyried adroddiad  Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo (Opsiwn 2).