Lleoliad: Ar MS Teams
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais am hynny.
Cofnodion: Nodwyd na chafwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.
Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd H. Cunningham, Dirprwy Arweinydd/Aelod Cabinet Lle ac Amgylchedd, a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Addysg.
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Derbyn unrhyw ddatganiadau buddiant neu oddefebau.
Cofnodion: Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.
|
|
Ystyried penderfyniadau cyfarfod 29 Tachwedd 2023.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i benderfyniadau cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 29 Tachwedd 2023.
PENDERFYNWYD derbyn y penderfyniadau fel cofnod gywir o drafodion.
|
|
Blaenraglen Gwaith – 21 Chwefror 2024 PDF 85 KB Derbyn y flaenraglen gwaith.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pwyllgor Craffu a Democrataidd.
Dywedwyd y byddai’r Flaenraglen Gwaith ar gyfer y cyfarfod ar 21 Chwefror 2024 yn cael ei diwygio i roi ystyriaeth i adroddiad y gyllideb, ac y gwneir trefniadau ar gyfer cyfarfod arbennig o’r Cyngor os oes angen.
PENDERFYNWYD yn unol â hynny.
|
|
Mabwysiadu Polisi Biniau Sbwriel a Baw Cŵn PDF 156 KB Ystyried adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chytuno ar y Polisi Biniau Sbwriel a gynigir fel y’i rhoddir yn Atodiad 1 (Opsiwn 1).
|
|
Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl – Chwarter 2 – Adroddiad Monitro Cyllideb a Pherfformiad PDF 176 KB Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad. (Opsiwn 1)
|
|
Datblygiad Fferm Wynt Mynydd Bedwellte PDF 134 KB Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.
Cynigiwyd ychwanegu’r canlynol at Opsiwn 1 yr adroddiad: ‘adroddiad pellach i’w gyflwyno i’r Cabinet ar gyfer penderfyniad ffurfiol ar yr opsiwn’.
PENDERFYNWYD yn unol â hynny.
PENDERFYNWYD YMHELLACH, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad:
· a bod y Cyngor yn ymrwymo i Gytundeb Opsiwn ar y telerau i’w cytuno gyda EDPR ar gyfer hawliau mynediad dros Barc Bryn Bach i hwyluso datblygu fferm wynt. Dim ond os rhoddir caniatâd cynllunio ar gyfer y fferm wynt y bydd yr opsiwn yn cychwyn;
· a chyflwyno adroddiad pellach i’r Cabinet ar gyfer penderfyniad ffurfiol ar yr opsiwn. (Opsiwn 1)
|