Lleoliad: Ar MS Teams
Cyswllt: E-bost: deb.jones@blaenau-gwent.gov.uk
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais am hynny.
Cofnodion: Nodwyd na chafwyd unrhyw geisiadau am y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.
Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Derbyn unrhyw ddatganiadau buddiant neu oddefebau.
Cofnodion: Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.
|
|
Derbyn penderfyniadau’r Cabinet a gynhaliwyd ar 19 Gorffennaf 2023.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i benderfyniadau’r cyfarfod o’r Cabinet a gynhaliwyd ar 19 Gorffennaf 2023.
PEN DERFYNWYD bod y penderfyniadau yn gofnod gywir o’r trafodaethau.
|
|
Adroddiad Gwrthwynebiadau Hysbysiad Statudol – Capasiti Canolfan Adnoddau ADY PDF 183 KB Ystyried adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Addysg.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth, Trawsnewid Addysg a Newid Busnes.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod y Cabinet yn cefnogi Opsiwn 1, sef:
· Argymell fod y Cyngor yn ystyried ac yn derbyn yr adroddiad Gwrthwynebiadau gyda thystiolaeth o’r Hysbysiad Statudol (Atodiad 1) a chymeradwyaeth grantiau i symud ymlaen i’r cam gweithredu; a
· Derbyn yr achos busnes llawn (Atodiad 2) yng nghyswllt gweithredu’r canolfannau adnoddau o fis Medi 2023 ymlaen.
|