Agenda and minutes

Cabinet - Dydd Mercher, 4ydd Hydref, 2023 10.00 am

Lleoliad: Ar MS Teams

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais am hynny.

 

Cofnodion:

Nodwyd na chafwyd unrhyw geisiadau am y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn unrhyw ymddiheuriad am absenoldeb.

 

Cofnodion:

Cafwyd yr ymddiheuriadau dilynol am absenoldeb:-

 

Prif Weithredwr Interim

Cynghorydd S. Edmunds, Aelod Cabinet Pobl ac Addysg

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Derbyn unrhyw ddatganiadau buddiant neu oddefebau.

 

Cofnodion:

Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.

 

4.

Cabinet pdf icon PDF 69 KB

Derbyn penderfyniadau cyfarfod arbennig y Cabinet a gynhaliwyd ar 4 Medi 2023.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i benderfyniadau cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 4 Medi 2023.

 

PENDERFYNWYD derbyn y penderfynaidau fel cofnod gywir o’r trafodion.

 

 

5.

Cynadleddau, Cyrsiau, Digwyddiadau a Gwahoddiadau pdf icon PDF 84 KB

Ystyried yr adroddiad.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i’r dilynol:-

 

Cynhadledd Flynyddol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru – Llandudno 15 Medi 2023

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cynnig fod y Cynghorydd H. Cunningham, Dirprwy Arweinydd y Cyngor yn mynychu.

 

Cymdeithas Lluoedd wrth Gefn a Chadetiaid Cymru – Briffiad Blynyddol – 19 Hydref 2023

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cynnig fod y Cynghorydd D. Bevan, Pencampwr Lluoedd Arfog yn mynychu.

 

6.

Blaenraglen Gwaith – 29 Tachwedd 2023 pdf icon PDF 87 KB

Derbyn y flaenraglen gwaith.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Swyddog  Craffu a Democrataidd.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chytuno ar y Flaenraglen Gwaith ar gyfer y Cabinet ar 29 Tachwedd 2023.

 

7.

Grantiau i Sefydliadau pdf icon PDF 94 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Cafwyd y grantiau dilynol i sefydliadau ymhellach cyn cyhoeddi’r adroddiad:-

 

BRYNMAWR

 

Brynmawr Ward - Cynghorydd J. Gardner

 

 

1.

Cymdeithas Amgueddfa Brynmawr a’r Cylch

     £250

 

GLYNEBWY

Ward Gogledd Glynebwy - Cynghorydd Jen Morgan

 

 

1.

Awtistiaeth Un Bywyd

£500

2.

Cymdeithas Operatig Tredegar

£150

3.

Pres Cwm Ebwy

£150

4.

Clwb Bocsio Blaenau’r Cymoedd

£200

 

Ward Rasa a Garnlydan – Cynghorydd D. Wilkshire

 

 

1.

Ysbryd Cymunedol Garnlydan

£100

2.

Amgueddfa Gweithiau Glynebwy

£80

3.

Côr Meibion Beaufort

£80

4.

Bowls Rasa a Beaufort

£75

5.

Pensiynwyr Rasa

£100

6.

Sêr Ifanc Blaenau Gwent

£80

7.

Puddleducks

£100

8.

Goleuadau Nadolig Glynebwy

£80

9.

Clwb Rygbi Beaufort

£80

10.

Côr Meibion Glynebwy

£80

11.

Ysgol Gynradd Rhos y Fedwen

£100

12.

Pêl-rwyd Glynebwy

£80

13.

Bowls Dan Do Blaenau Gwent

£80

14.

Clwb Pêl-droed Garnlydan

£100

15.

Capel y Graig

£80

 

NANTYGLO A BLAENAU

 

Ward Nantyglo - Cynghorydd P. Baldwin

 

1.

Cronfa Ffyniant Cyffredin

£300

 

Ward Nantyglo - Cynghorydd S. Behr

 

1.

Cronfa Ffyniant Cyffredin

£300

 

Ward Blaenau - Cynghorydd J. P. Morgan

 

1.

Ecstrafagansa Nadolig

£300

 

Ward Blaenau - Cynghorydd L. Winnett

 

1.

Cronfa Ffyniant Cyffredin

£300

 

PENDERFYNWYD yn unol â hynny.

 

PENDERFYNWYD YMHELLACH, yn amodol i’r uchod, i dderbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.

 

8.

Adroddiad Cynnydd Chwarterol CS092 Cynllun Gweithredu’r Ymchwiliad a’r Polisi Cymraeg yn y Gweithle pdf icon PDF 146 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, Llywodraethiant a Phartneriaethau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, Llywodraethiant a Phartneriaethau.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod y Cabinet yn cymerawyo’r Adroddiad Cynnydd Chwarterol a’r Polisi Cymraeg yn y Gweithle, fel sy’n dilyn:

·       Adroddiad Cynnydd Chwarterol CS092 (Atodiad 1), a chefnogi’r dull gweithredu a gyflwynir i’r Cabinet (Opsiwn 1a); a

 

·       Polisi Cymraeg yn y Gweithle (Atodiad 2) ac argymhellwyd bod y Cabinet yn ei gymeradwyo ar gyfer ei gyhoeddi (Opsiwn 2a).

 

9.

Strategaeth Trawsnewid Digidol ar gyfer y Cyngor pdf icon PDF 153 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod y Cabinet yn cymeradwyo’r Strategaeth Trawsnewid Digidol (Opsiwn 1).

 

10.

Strategaeth Gwasanaethau Cwsmeriaid ar gyfer y Cyngor pdf icon PDF 157 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod y Cabinet yn cymeradwyo’r Strategaeth Gwasanaethau Cwsmeriaid a’r Safonau a Siarter Cwsmeriaid cysylltiedig gyda mân ddiwygiad i’r ddogfen fel yr adroddwyd (Opsiwn 1).

 

11.

Adroddiad Blynyddol Iechyd a Diogelwch – 1 Ebrill 2022 i 31 Mawrth 2023 pdf icon PDF 138 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chytunodd y Cabinet ar yr adroddiad fel y’i cyflwynwyd (Opsiwn 1).

 

12.

Monitro’r Gyllideb Refeniw 2023/2024 Rhagolwg Alldro i 31 Mawrth 2024 (fel ar 30 Mehefin 2023) pdf icon PDF 160 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a rhoddodd y Cabinet yr her briodol i’r deilliannau ariannol yn yr adroddiad; cymeradwywyd y neilltuo cyllideb a fanylir ym mharagraff 5.1.8 o fwy na £250,000 yn unol â’r cyfansoddiad a nododd weithredu’r cronfeydd wrth gefn (Opsiwn 1).

 

13.

Monitro Cyllideb Gyfalaf, Rhagolwg ar gyfer Blwyddyn Ariannol 2023/2024 (fel ar 30 Mehefin 2023) pdf icon PDF 142 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a rhoddodd y Cabinet yr her briodol i’r deilliannau ariannol yn yr adroddiad, yn parhau i gefnogi’r gweithdrefnau rheoli ariannol priodol a gytunwyd gan y Cyngor a nododd y gweithdrefnau rheoli a monitroi cyllidebol sydd yn eu lle gyda’r Tîm Cyfalaf, i ddiogelu cyllid yr Awdurdod (Opsiwn 1).

 

14.

Adroddiad Perfformiad Diwedd Blwyddyn 2022/23 Cyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymunedol ac Adfywio pdf icon PDF 157 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod y Cabinet yn cymeradwyo’r adroddiad fel y’i cyflwynwyd (Opsiwn 2).

 

15.

Deddf Llywodraeth Leol 1972 Cynnig i Drosglwyddo Mwy o Dir i Bluebirds Abertyleri pdf icon PDF 153 KB

Ystyried adroddiad y Cyfawryddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad, ac ar yr amod y caniateir mynediad cyhoeddus parhaus, rhoi prydles i Bluebirds Abertyleri yng nghyswllt y cae chwaraeon yn Heol Windsor i hwyluso defnydd gan aelodau iau y clwb (Opsiwn 1).

 

16.

Strategaeth/Polisïau/Canllawiau Cynhwysiant ac ADY (adolygu a diwygiadau) pdf icon PDF 145 KB

Ystyried adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Addysg.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Addysg.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad ac ar ôl ystyried barn Craffu (mai dim ond swyddogion Awdurdodau Lleol sydd wedi cymryd rhan ac ymgysylltu â’r broses), cymeradwyodd y Cabinet y dogfennau a adolygwyd ac a ddiwygiwyd. Bydd hyn yn sicrhau y caiff y dogfennau eu hailddosbarthu i randdeiliaid allweddol gyda chynnwys y newidiadau diweddaraf i ganllawiau cenedlaethol a deddfwriaeth; bgyddai hyn yn galluogi alinio prosesau yr awdurdod lleol a swyddogaethau statudol (Opsiwn 1).

 

17.

Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV): Strategaeth Ranbarthol Gwent 2023-2027 pdf icon PDF 122 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, Llywodraethiant a Phartneriaethau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, Llywodraethiant a Phartneriaethau.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chymeradwywyd y Strategaeth (Opsiwn 1).

 

18.

Adolygu Polisi Cludiant Rhwng y Cartref a’r Ysgol ac Ôl-16 2024 – 2025 pdf icon PDF 156 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Addysg.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Addysg.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chymeradwyodd y Cabinet y Polisi Cludiant Rhwng yr Ysgol a’r Cartref ac Ôl-16 (Atodiad 1) (Opsiwn 1).