Lleoliad: virtually via MS Teams, if you wish to attend this meeting please contact michelle.hicks@blaenau-gwent.gov.uk.
Cyswllt: Ar MS Teams
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais am hynny.
Cofnodion: Nodwyd na chafwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnodion: Cafwyd yr ymddiheuriadau dilynol am absenoldeb:-
Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Gwasanaethau Cymdeithasol Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, Partneriaethau a Llywodraethiant |
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Derbyn unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau.
Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.
|
|
Ystyried penderfyniadau cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 7 Mehefin 2023.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i benderfyniadau cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 7 Mehefin 2023.
PENDERFYNWYD cadarnhau’r penderfyniadau.
|
|
Cyfarfod Arbennig o’r Cabinet PDF 326 KB Ystyried penderfyniadau cyfarfod arbennig y Cabinet a gynhaliwyd ar 21 Mehefin 2023.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i benderfyniadau cyfarfod arbennig o’r Cabinet a gynhaliwyd ar 21 Mehefin 2023.
PENDERFYNWYD cadarnhau’r cofnodion.
|
|
Blaenraglen Gwaith Arfaethedig 2023-24 y Cabinet PDF 379 KB Derbyn yr adroddiad.
Dogfennau ychwanegol: |
|
Grantiau i Sefydliadau PDF 191 KB Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.
|
|
Adroddiad Blynyddol yr Iaith Gymraeg 2022/23 PDF 417 KB Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, Llywodraethiant a Phartneriaethau.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, Llywodraethiant a Phartneriaethau.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi Adroddiad Blynyddol ar y Gymraeg 2022/23, fel y’i cyhoeddwyd ar 30 Mehefin 2023 (Opsiwn 1).
|
|
Monitro’r Gyllideb Refeniw 2022/2023 – All-dro Darpariaethol PDF 563 KB Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad, yr her priodol i ddeilliannau ariannol yr adroddiad a nododd y Cabinet y defnydd net o gronfeydd penodol wrth gefn (Opsiwn 1).
|
|
Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a: (a) rhoddwyd yr her briodol i’r deilliannau ariannol yn yr adroddiad; (b) parhau i gefnogi’r gweithdrefnau rheoli ariannol priodol a gytunwyd gan y Cyngor; a (c) nodi’r gweithdrefnau ar reoli cyllideb a monitro sydd yn eu lle o fewn y Tîm Cyfalaf, i ddiogelu cyllid yr Awdurdod (Opsiwn 1).
|
|
Cyflawni Gofynion Penodol Deddf Cydraddoldeb 2010: Datblygu Polisi Cydraddoldeb Strategol PDF 592 KB Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, Llywodraethiant a Phartneriaethau.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, Llywodraethiant a Phartneriaethau.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chefnogwyd y dull a gynigiwyd ar gyfer datblygu Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024/28 ac Amcanion Cydraddoldeb a gymeradwyir gan y Cabinet (Opsiwn 1).
|
|
Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Polisi a Phartneriaethau.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth – Polisi a Phartneriaethau.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chymeradwyo dychwelyd i drefniadau presennol y Siarter Cytundeb Cyffredin gyda’r pedwar cyngor tref a chymuned, gyda siarter ddiwygiedig ar gyfer 2023/24 ymlaen i’w gyflwyno i’w gytuno mewn cyfarfod yn y dyfodol (Opsiwn 1).
|
|
Premiwm treth gyngor ar gartrefi gwag hirdymor ac ail gartrefi PDF 508 KB Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Nododd y Dirprwy Arweinydd y cwestiynau i’r ymgynghoriad yn Atodiad 1 a chynigiodd y dylid newid y gair ‘teimlo’ yng nghwestiwn 2 i ddarllen ‘sylwadau’ gan fod yr ymgynghoriad yn gofyn am farn pobl. Cynigiodd y Dirprwy Arweinydd hefyd y dylid cynnwys cwestiwn agored ychwanegol a fyddai’n galluogi pobl i gynnwys unrhyw sylwadau pellach y teimlant sy’n berthnasol wrth ymateb i’r ymgynghoriad.
Awgrymodd y Dirprwy Arweinydd hefyd y byddai’n ddefnyddiol wrth ystyried yr ymatebion i’r ymgynghoriad ein bod yn gwybod ym mha gapasiti mae pobl yn ymateb. Teimlid y byddai ymateb gan elusen tai neu ddigartrefedd yn wahanol iawn i landlord ac efallai landlord cymdeithasol cofrestredig.
Cafodd y cynigion eu cefnogi a’u heilio gan Aelodau Cabinet.
PENDERFYNWYD yn unol â hynny.
PENDERFYNWYD YMHELLACH, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a nodi manylion y pwerau dewisol sydd gan gynghorau yng nghyswllt premiwm treth gyngor, a chytunwyd cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar gynigion i gyflwyno premiwm treth gyngor ar gyfer eiddo sy’n wag am gyfnod hir o fewn Blaenau Gwent. Mae’r cwestiynau a gynigir ar gyfer yr ymgynghoriad yn Atodiad 2 (Opsiwn 1).
|
|
Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Addysg. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i’r adroddiad ar y cyd gan Gyfarwyddwr Corfforaethol Interim Gwasanaethau Cymdeithasol a Chyfarwyddwr Corfforaethol Interim Addysg.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a’r dull gweithredu a’r Polisi Diogelu mewn Addysg diwygiedig a ddangosir yn Atodiad 3 (Opsiwn 1).
|