Lleoliad: via MS Teams (if you wish to view this meeting please contact michelle.hicks@blaenau-gwent.gov.uk)
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais am hynny.
Cofnodion: Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.
Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd J.C. Morgan.
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Derbyn unrhyw ddatganiadau buddiant neu oddefebau.
Cofnodion: Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.
|
|
Oherwydd yr angen i ystyried yr eitem ddilynol fel mater o frys, mae Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Llywyddol wedi cadarnhau y gellir ystyried y mater dilynol dan ddarpariaethau Paragraff 4(b), Adran 100(b) Deddf Llywodraeth Leol, 1972.
RHESYMAU DROS FRYS
I gydymffurfio gydag amserlenni cyfreithiol.
I ystyried yr adroddiad ar y cyd gan y Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid, y Prif Swyddog Adnoddau a’r Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Oherwydd yr angen i ystyried yr eitem ddilynol fel mater o frys, cadarnhaodd Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Llywyddol y gellir ystyried y mater dilynol dan ddarpariaethau Paragraff 4(b), Adran 100(b) Deddf Llywodraeth Leol 1972.
Rhoddwyd ystyriaeth i’r adroddiad ar y cyd gan y Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid, y Prif Swyddog Adnoddau a’r Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a’r diweddariad ar y cynnig i drosglwyddo gwasanaethau o SVWS i’r Cyngor ar 1 Mai 2023 (yn cynnwys trosglwyddo asedau a rhwymedigaethau ar neu ar ôl y dyddiad trosglwyddo hyd at bwynt dirwyn y Cwmni i ben).
Nodwyd fod yr amcangyfrif effaith ariannol yn parhau o fewn amlen y gyllideb fel y cytunwyd yn flaenorol.
Rhoddwyd cymeradwyaeth i ddirprwyo i Swyddogion i negodi a chytuno ar y dilynol:- · telerau terfynol y trefniant dirwyn i ben a threfniadau ategol eraill y gall fod eu hangen yn y dyfodol i weithredu’r trosglwyddiad rhwng y Cyngor a Silent Valley Waste Services Limited; a · Gweithred Perfformiad (yn cynnwys yr ymrwymiad ariannol rhwng y Cyngor a Cyfoeth Naturiol Cymru i gefnogi trosglwyddo’r Drwydded Amgylcheddol.
Cymeradwywyd y penderfyniad cyfranddalwyr fel y manylir yn Atodiad 2 yr adroddiad. .
|