Lleoliad: Virtually via MS Teams (if you would like to view this meeting please contact deb.jones@blaenau-gwent.gov.uk)
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais am hynny
Cofnodion: Nodwyd na chafwyd unrhyw gais am y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.
Cofnodion: Ni adroddwyd unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Derbyn unrhyw ddatganiadau buddiant neu oddefebau.
Cofnodion: Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.
|
|
Cyfarfod Arbennig o’r Cabinet PDF 219 KB Derbyn penderfyniadau’r Cabinet Arbennig a gynhaliwyd ar 23 Chwefror 2023.
Cofnodion: Derbyn penderfyniadau y cyfarfod arbennig o’r Cabinet a gynhaliwyd ar 22 Chwefror 2023.
PENDERFYNWYD cadarnhau’r penderfyniadau.
|
|
Derbyn penderfyniadau’r Cabinet a gynhaliwyd ar 1 Mawrth 2023. Cofnodion: Derbyn penderfyniadau cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 1 Mawrth 2023.
PENDERFYNWYD cadarnhau’r cofnodion.
|
|
Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod Aelodau yn nodi’r rhagolwg ar gyfer defnyddio cronfeydd wrth gefn (Opsiwn 1).
|
|
Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod Aelodau yn: · Parhau i gefnogi gweithdrefnau rheoli ariannol priodol a gytunwyd gan y Cyngor, a · Nodi’r gweithdrefnau ar gyfer rheoli a monitro’r gyllideb a weithredir o fewn y Tîm Cyfalaf er mwyn diogelu cyllid yr Awdurdod. (Opsiwn 1)
|
|
Rhyddhad Ardrethi Busnes – Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch – 2023/24 PDF 503 KB Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod y Cabinet yn mabwysiadu Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch – cynllun 2023/24 ar ran y Cyngor, i atodi Cynllun Rhyddhad Ardrethi Dewisol y Cyngor (Opsiwn 2)
|
|
Adroddiad Cynnydd Contractau dros £500k PDF 480 KB Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol a Gwasanaethau Cymunedol.
PENDERFYNWYD derbyn yr wybodaeth a gynhwysir o fewn yr adroddiad.
|
|
Adroddiad Cynnydd Ansawdd Aer Lleol – 2022 (ar gyfer 2021) PDF 582 KB Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod Aelodau yn nodi cynnwys Adroddiad Cynnydd Ansawdd Aer 2022 ar gyfer CBS Blaenau Gwent yng nghyswllt y monitro parhaus a’r adolygiad cyfredol o ansawdd aer o fewn Blaenau Gwent gan Adran Iechyd yr Amgylchedd i gyflawni dyletswyddau statudol yr Awdurdod gan gydymffurfio gyda Rhan IV Deddf yr Amgylchedd 1995.
|
|
ECO4 Cymhwyster Hyblyg – Memorandwm Dealltwriaeth a Datganiad ar y Cyd PDF 665 KB Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod Aelodau yn nodi cynnwys yr adroddiad yng nghyswllt gweithredu ECO4Flex yn y fwrdeistref.
|
|
Cynllun Creu Lle Brynmawr PDF 623 KB Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.
Tanlinellodd yr Arweinydd y byddai symud ymlaen ag unrhyw brosiectau o fewn y Cynllun Creu Lleoedd yn amodol ar ddynodi cyllid.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod y Cabinet yn cymeradwyo Cynllun Creu Lleoedd Brynmawr, ei weledigaeth a’i uchelgeisiau craidd ar gyfer y dyfodol. Bydd hyn yn ein galluogi i gwblhau drafft y cynllun cyflenwi a chamau tuag at weithredu’r prosiectau a gaiff eu cynnwys ynddo. (Opsiwn 2)
|
|
Cronfa Ffyniant Gyffredin PDF 513 KB Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod aelodau yn cymeradwyo’r Cytundeb Lefel Gwasanaeth rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent a Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, yn amodol ar eglurhad a gafwyd gan Gyngor Rhondda Cynon Taf ac i’r Cyfarwyddwr Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol ynghyd â’r Swyddog A151 gael awdurdod dirprwyedig i dderbyn diwygiadau i’r Cytundeb Lefel Gwasanaeth i hwyluso gweithredu y Gronfa Ffyniant Gyffredino fewn Blaenau Gwent . (Opsiwn 2)
|
|
Cynllun Busnes EAS 2023-2025 (Fersiwn Ymgynghori – Hygyrch) PDF 544 KB Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a’r cynllun busnes. (Opsiwn 1)
|
|
Cynnig i Ymgynghori ar Gapasiti Canolfannau Adnoddau ADY PDF 755 KB Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod y Cabinet yn cefnogi’r ddogfen ymgynghori a’r llwybr gweithredu cysylltiedig. (Opsiwn 1)
|
|
Canolfan Uwch Beirianneg (HIVE), Glynebwy Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.
Cofnodion: Gan roi ystyriaeth i’r farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol ynghylch y prawf budd cyhoeddus, o bwyso a mesur popeth fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.
PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra caiff yr eitem hon o fusnes ei thrafod gan ei bod yn debygol y byddai gwybodaeth eithriedig yn cael ei datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).
Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad sy’n cynnwys gwybodaeth a eithriwyd yn ymwneud â materion ariannol/busnes personau heblaw’r Awdurdod a chymeradwyo Opsiwn 1.
|