Lleoliad: O Bell yn Defnyddio Microsoft Teams
Rhif | eitem |
---|---|
Cydymdeimlad Mynegodd y Pwyllgor gydymdeimlad gyda theulu Sally-Ann Evans, Cyfreithiwr a fu farw yn sydyn. Dangosodd Aelodau a Swyddogion eu parch gyda munud o dawelwch.
|
|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais am hynny
Cofnodion: Nodwyd na chafwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.
Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr S. Behr, J. Hill a G. Thomas.
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Derbyn unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau.
Cofnodion: Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.
|
|
RHESTR CEISIADAU/TRWYDDEDAU AR GYFER TRWYDDEDAU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HUR PREIFAT Cofnodion: Gan ystyried y farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol yng nghyswllt y prawf budd cyhoeddus, sef o bwyso a mesur popeth fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyheoddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.
PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra cynhelir yr eitem hon o fusnes gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad o wybodaeth eithredig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).
Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Tîm Safonau Masnach a Thrwyddedu.
Cais 1(a) – Cais am Drwydded Gyrrwr Cerbyd Hacni/Cerbyd Hur Preifat newydd
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad sy’n cynnwys gwybodaeth yn ymwneud ag unigolyn a bod y cais yn cael ei GYTUNO.
Cais 1(b) – Cais am Drwydded Gyrrwr Cerbyd Hacni/Cerbyd Hur Preifat newydd
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad sy’n cynnwys gwybodaeth yn ymwneud ag unigolyn a bod y cais yn cael ei GYTUNO.
|