Lleoliad: O Bell yn Defnyddio Microsoft Teams
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.
Cofnodion: Nodwyd na chafwyd unrhyw geisiadau am y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.
Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd G. Thomas.
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Derbyn unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau.
Cofnodion: Ni adroddwyd unrhyyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.
|
|
Rhestr Ceisiadau/Trwyddedau ar gyfer Cerbydau Hacni a Cherbydau Hur Preifat Ystyried y ceisiadau a ddaeth i law.
Cofnodion: Gan ystyried y farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol ynghylch y prawf budd cyhoeddus sef o bwyso a mesur popeth fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.
PENDERFYNWYD eithrio’r cyfarfod tra cynhelir yr eitem hon o fusnes gan ei bod yn debyg y byddai datgeliad gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Atodlen 11A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).
Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Tîm Safonau Masnach a Thrwyddedu.
Cais 1.1(a) – Cais newydd am Drwydded Gyrrwr Cerbyd Hacni ac i ymadael â’r polisi yng nghyswllt y rheol oedran 5 mlynedd ar gyfer cerbydau cerbyd hacni
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad sy’n cynnwys gwybodaeth yn ymwneud ag unigolyn neilltuol a CHYTUNO i’r cais.
Cais 2(a) – Cais am Drwydded Gyrrwr Cerbhyd Hacni/Cerbyd Hur Preifat
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad sy’n cynnwys gwybodaeth yn ymwneud ag unigolyn neilltuol a CHYTUNO i’r cais.
|