Lleoliad: Ar MS Teams
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais am hynny.
Cofnodion: Nodwyd na chafwyd unrhyw geisiadau am y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.
Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr M. Cross a G. Thomas.
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Derbyn unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau.
Cofnodion: Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.
Gadawodd y Cynghorydd D. Rowberry y cyfarfod ar y pwynt hwn.
|
|
RHESTR CEISIADAU/TRWYDDEDAU AR GYFER TRWYDDEDAU CERBYDAU HACNI A HUR PREIFAT Ystyried y rhestr amgaeedig o geisiadau.
Cofnodion: Ymunodd y Cynghorydd P. Baldwin â’r cyfarfod ar y pwynt hwn.
Yn absenoldeb yr ymgeisydd, cytunodd y Pwyllgor yn unfrydol i symud ymlaen gyda’r gwrandawiad.
Gan roi ystyriaeth i’r farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol ynghylch y prawf budd cyhoeddus, o bwyso a mesur popeth fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.
PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra cynhelir yr eitem hon o fusnes gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).
Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Tîm Safonau Masnach a Thrwyddedu i adolygu cais am drwydded gyrrwr Cerbyd Hacnai/Hur Preifat.
Cais Rhif 1.1(a)
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad sy’n cynnwys gwybodaeth ynghylch unigolyn neilltul a bod trwydded yrru Cerbyd Hacnai/Hur Preifat yr ymgeisydd yn cael ei DIDDYMU.
|