Lleoliad: O Bell yn Defnyddio Microsoft Teams
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais am hynny.
Cofnodion: Nodwyd na chafwyd unrhyw geisiadau am y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriad gan y Cynghorydd D. Rowberry.
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Derbyn unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau.
Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.
|
|
Amser Cyfarfodydd y Dyfodol Ystyried amser cyfarfodydd y dyfodol.
Cofnodion: PENDERFYNWYD dechrau cyfarfodydd y dyfodol am 10.00am.
|
|
Rhestr Ceisiadau ar gyfer Trwyddedau Cerbyd Hacni a Hur Preifat Ystyried y rhestr ceisiadau a atodir.
Cofnodion: Gan ystyried y farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol ynghylch y prawf budd cyhoeddus, o bwyso a mesur popeth fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.
PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra cynhelir yr eitem hon o fusnes gan ei bod yn debygol y bydd datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).
Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Tîm Safonau Masnach a Thrwyddedu.
Cais Rhif 1.1(a)
Cafodd y cais hwn ei OHIRIO.
Cais Rhif 1.2(b)
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad sy’n cynnwys gwybodaeth yn ymwneud ag unigolyn neilltuol a DIDDYMU y cais am adolygiad o drwydded yrru Cerbyd Hacni/Hur Preifat.
|