Lleoliad: O Bell yn Defnyddio Microsoft Teams
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais am hynny
Cofnodion: Nodwyd na chafwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.
Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr S. Behr a L. Parsons.
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Derbyn unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau.
Cofnodion: Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.
|
|
Ystyried adroddiad y Rheolwr Tîm – Safonau Masnach a Thrwyddedu..
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Tîm – Safonau Masnach a Thrwyddedu.
Yn dilyn trafodaeth,
PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a bod Aelodau yn cymeradwyo mabwysiadu’r polisi diwygiedig ynghylch trwyddedau cerbydau hacni a cherbydau hur preifat fel y dangosir yn Atodiad 1, yn cynnwys diwygiadau Llywodraeth Cymru a’r Adran Trafnidiaeth a’r diwygiad arfaethedig pan fydd wedi cofrestru gyntaf hyd at 10 oed. (Opsiwn 1).
|