Lleoliad: O Bell yn Defnyddio Microsoft Teams
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.
Cofnodion: Nodwyd na chafwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.
Cofnodion: Derbynbiwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd J. Gardner. |
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Derbyn unrhyw ddatganiadau buddiant neu oddefebau.
Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd L. Parsons fuddiant yn eitem 6 – Rhestr ceisiadau ar gyfer Trwyddedau Cerbyd Hacni a Hur Preifat.
Dywedwyd na fyddai’r Cynhorydd Parsons yn gymryd rhan mewn unrhyw drafodaeth neu bleidlais.
|
|
Ffioedd Trwyddedau Anstatudol 2022/23 PDF 414 KB Ystyried adroddiad yr Uwch Swyddog Trwyddedu
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Tîm – Safonau Masnach a Thrwyddedu.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod Aelodau’n cefnogi cynnwys yr adroddiad wrth symud ymlaen. (Opsiwn 1)
|
|
Eithredig Derbyn ac ystyried yr adroddiad dilynol sydd ym marn y swyddog priodol yn eitem eithriedig gan roi ystyriaeth i’r prawf budd cyhoeddus ac y dylai’r wasg a’r cyhoedd gael eu heithrio o’r cyfarfod (mae’r rheswm am y penderfyniad ar gael ar restr a gedwir gan y swyddog priodol).
|
|
Rhestr Ceisiadau ar gyfer Trwyddedau Cerbyd Hacni a Hur Preifat Ystyried adroddiad yr Uwch Swyddog Trwyddedu.
Cofnodion: Gan ystyried y farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol parthed y prawf budd cyhoeddus, o bwyso a mesur popeth fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.
PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra cynhelir yr eitem hon o fusnes gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).
Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Tîm Safonau Masnachu a Thrwyddedu.
1.1 (a) – Adolygiad o drwydded gyrrwr Cerbyd Hacni/Hur Preifat
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad sy’n cynnwys gwybodaeth ynghylch unigolyn neilltuol a bod y cais am adolygu trwydded gyrrwr Cerbyd Hacni/Hur Preifat yn cael ei OHIRIO.
1.1 (b) – Adnewyddu trwydded gyrrwr Cerbyd Hacni/Hur Preifat
Mewn pleidlais unfrydol
PENDERFYNWYD fod yr adroddiad sy’n cynnwys gwybodaeth yngh-ylch unigolyn neilltuol yn cael ei dderbyn a bod y cais am adnewyddu trwydded gyrrwr Cerbyd Hacni/Hur Preifat yn cael ei GYTUNOI, gyda rhybudd am ymddygiad yn y dyfodol.
Ni chymerodd y Cynghorydd Parsons ran yn y drafodaeth na’r bleidlais.
|