Lleoliad: O Bell yn Defnyddio Microsoft Teams
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais am hynny.
Cofnodion: Nodwyd na chafwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.
Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan:-
Cynghorydd P. Baldwin (Is-gadeirydd) Cynghorydd M. Day Cynghorydd J. Morgan Cynghorydd D. Rowberry Cynghorydd J. Thomas Cynghorydd D. Wilkshire
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Derbyn unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau. Cofnodion: Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.
|
|
Adroddiad Ceisiadau Cynllunio PDF 886 KB Ystyried adroddiad y Rheolwr Tîm Rheoli Datblygu.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Tîm Rheoli Datblygu, yn cynnwys:-
Cais Rhif C/2023/0087 Celtic Rose, Heol Fasnachol, Llanhiledd, Abertyleri NP13 2AE 9 annedd newydd a ffordd fynediad
Pan gymerwyd pleidlais,
PENDERFYNWYD yn unfrydol RHOI caniatâd cynllunio gyda’r amodau a fanylir yn yr adroddiad.
Ni chymerodd y Cynghorydd L. Parsons ran yn y bleidlais..
|
|
Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth – Datblygu a Stadau.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.
|
|
Ystyried adroddiad y Swyddog Cynllunio.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Swyddog Cynllunio.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi penderfyniad yr apêl ar gyfer cais cynllunio C/2020/0144 fel y’i rhoddir yn Atodiad A.
|
|
Gwybodaeth Perfformiad Chwarterol PDF 213 KB Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.
|
|
Ystyried adroddiad y Swyddog cymorth Busnes.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Swyddog Cymorth Busnes.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.
|
|
Erlyniad Llys: 44 Bryn Coch, Glynebwy PDF 828 KB Ystyried adroddiad y Swyddog Gorfodaeth.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Swyddog Gorfodaeth.
PENDERFYNWD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.
|
|
Meysydd ar gyfer Sesiynau Gwybodaeth a Hyfforddiant Aelodau Trafod unrhyw feysydd ar gyer sesiynau gwybodaeth a hyfforddiant aelodau.
Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd y caiff y Sesiynau Gwybodaeth a Hyfforddiant dilynol i Aelodau eu trefnu yn dilyn CCB y Cyngor:
• Hyfforddiant Gorfodaeth • Adran 106 • Ystyriaethau Cynllunio Sylweddol • Polisi Hysbysebu • Cynllun Datblygu Lleol
|
|
Achosion gorfodaeth a gafodd eu cau rhwng 15 Rhagfyr 2023 a 22 Chwefror 2024 Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau.
Cofnodion: Gan ystyried y farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol ynghylch y prawf budd cyhoeddus, o bwyso a mesur popeth fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.
PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra trafodir yr eitem hon o fusnes gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).
Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad sy’n cynnwys gwybodaeth yn ymwneud ag unigolyn neilltuol a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.
|