Lleoliad: O Bell yn Defnyddio Microsoft Teams
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais am hynny.
Cofnodion: Nodwyd na chafwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.
Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan:-
Cynghorydd E. Jones Steve Smith, Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Derbyn unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau.
Cofnodion: Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.
|
|
Adroddiad Ceisiadau Cynllunio PDF 3 MB Ystyried adroddiad y Rheolwr Tîm Rheoli Datblygu.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Tîm Rheoli Datblygu yn cynnwys:-
Cais Rhif C/2023/0225 Cyn Glwb Bowls Dan Do Abertyleri, Stryd Vivian, Abertyleri, NP13 2LB Datblygiad preswyl, yn codi 22 cartref, mynediad, peirianneg a gwaith cysylltiedig
Mewn pleidlais a gymerwyd,
PENDERFYNWYD yn unfrydol RHOI caniatâd cynllunio yn ddarostyngedig i’r amodau a Chytundeb Adran 106 a fanylir yn yr adroddiad.
Ni chymerodd y Cynghorydd J. Holt ran yn y bleidlais.
Cais Rhif C/2023/0232 Tir ger KFC, Heol Waun-y-Pound, Glynebwy, NP23 6LE Codi becws gyrru-trwodd (defnydd Dosbarth A1/A3) a datblygiad cysylltiedig
Yn dilyn trafodaeth gyda’r Asiant,
PENDERFYNWYD i OHIRIO y cais hwn i gyfarfod nesaf y Pwyllgor Cynllunio.
|
|
Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth – Datblygu a Stadau. PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.
|
|
Nodyn Gwybodaeth Ymarfer Diwygiedig PDF 383 KB Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth – Datblygu a Stadau.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod y Pwyllgor Cynllunio yn mabwysiadu’r PAN diwygiedig a atodir gyda’r adroddiad hwn (Opsiwn 2).
|
|
Ystyried adroddiad y Swyddog Cymorth Busnes.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Swyddog Cymorth Busnes.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.
|
|
Meysydd ar gyfer Sesiynau Gwybodaeth a Hyfforddiant Aelodau Trafod unrhyw feysydd ar gyfer sesiynau gwybodaeth a hyfforddiant aelodau.
Cofnodion: Dywedwyd y caiff Sesiwn Wybodaeth i Aelodau ar Ystyriaethau Cynllunio Sylweddol ei threfnu ar gyfer 1 Chwefror 2024.
|
|
Achosion gorfodaeth a gafodd eu cau rhwng mis Hydref 2023 a 15 Rhagfyr 2023 Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu.
Cofnodion: Ymunodd y Cynghorydd Diane Rowberry â’r cyfarfod ar y pwynt hwn.
Gan roi ystyriaeth i’r farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol ynghylch y prawf budd cyhoeddus, sef o bwyso a mesur popeth fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth, ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.
PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra cynhelir yr eitem hon o fusnes gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leoil 1972 (fel y’i diwygiwyd).
Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad sy’n cynnwys gwybodahet yn ymwneud ag unigolyn neilltuol a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo..
|