Lleoliad: Ar MS Teams
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais am hynny
Cofnodion: Nodwyd na chafwydd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.
Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr M. Day a J. Thomas.
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Derbyn unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau.
Cofnodion: Gwnaed y datganiadau buddiant a goddefebau dilynol:
Rhif 4, Adroddiad Cynllunio C/2023/0001, T? Madison a Mon Calpe, Heol Picton, Dukestown, Tredegar, NP22 4DX
Cynghorydd D. Bevan Cynghorydd W. Hodgins Cynghorydd D. Wilkshire
|
|
Adroddiad Ceisiadau Cynllunio PDF 957 KB Ystyried adroddiad y Rheolwr Tîm Rheoli Datblygu.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Tîm Rheoli Datblygu.
C/2023/0001 T? Madison a Mon Calpe, Heol Picton, Dukestown, Tredegar, NP22 4DX Newid defnydd adeiladau preswyl presennol (C3) yn gartrefi gofal plant (C2)
Ymataliodd y Cynghorwyr D. Bevan, W. Hodgins a D. Wilkshire rhag pleidleisio oherwydd eu datganiad o fuddiant.
PENDERFYNWYD RHOI caniatâd cynllunio.
|
|
Apeliadau, Ymgynghoriadau a Diweddariad DNS Mawrth 2023 PDF 388 KB Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodeth a gynhwysir ynddo.
|
|
Ystyried adroddiad y Swyddog Cymorth Busnes.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad yr Uwch Swyddog Cymorth Busnes.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.
|
|
Meysydd ar gyfer Sesiynau Gwybodaeth a Hyfforddiant Aelodau Trafod unrhyw feysydd ar gyfer sesiynau gwybodaeth a hyfforddiant aelodau.
Cofnodion: Dywedwyd y byddid yn trefnu’r Sesiynau Gwybodaeth dilynol i Aelodau yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf:-
· Adran 106, a · Rôl Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio.
|
|
Achosion gorfodaeth a gafodd eu cau rhwng 15 Rhagfyr 2022 a 22 Chwefror 2023 Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu.
Cofnodion: Gan roi ystyriaeth i’r farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol yng nghyswllt y prawf budd cyhoeddus, o bwyso a mesur popeth fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.
PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra cynhelir yr eitem hon o fusnes gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).
Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad sy’n cynnwys gwybodaeth yn ymwneud ag unigolyn neilltuol a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.
|