Lleoliad: Ar MS Teams
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.
Cofnodion: Nodwyd na chafwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.
Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan:-
Cynghorwyr M. Day a J. Gardner. Rheolwr Gwasanaeth, Datblygu a Stadau Rheolwr Tîm, Rheoli Datblygu
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Derbyn unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau.
Cofnodion: Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.
|
|
Meysydd ar gyfer Sesiynau Gwybodaeth a Hyfforddiant Aelodau Trafod unrhyw feysydd ar gyfer sesiynau gwybodaeth a hyfforddiant i aelodau.
Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw feysydd ar gyfer Hyfforddiant/Sesiynau Gwybodaeth Aelodau.
|
|
Adroddiad Ceisiadau Cynllunio PDF 5 MB Ystyried adroddiad y Rheolwr Tîm Rheoli Datblygu.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Tîm, Rheoli Datblygu.
Cais Rhif. C/2022/0152 Vivian Street Builders Merchants, Stryd Vivian, Abertyleri NP13 2LE Dymchwel gweithdy presennol a newid defnydd safle gwerthu nwyddau adeiladwyr i godi 2 annedd 2 ystafell wely ar wahân
Yn dilyn trafodaeth,
PENDERFYNWYD yn unfrydol RHOI caniatâd cynllunio, gyda’r amodau a fanylir yn yr adroddiad.
Cais Rhif C/2022/0270 Uned 2, The Walk, Glynebwy NP23 6AY Newid defnydd o uned fanwerthu i ofal iechyd (deintyddfa)
Yn dilyn trafodaeth,
PENDERFYNWYD yn unfrydol RHOI caniatâd cynllunio, gyda’r amodau a fanylir yn yr adroddiad.
Canolfan Siopa Parc yr ?yl, Victoria, Glynebwy NP23 8FP Newid defnydd cyn ganolfan siopa yn ganolfan fusnes defnydd cymysg Dosbarthiadau Defnydd A, B a D, yn cynnwys ailwampio adeiladau presennol (a pheth dymchwel) ynghyd â newidiadau i lwhybrau a buarthau lleol a gweithiau eraill cysylltiedig
Yn dilyn trafodaeth faith,
PENDERFYNWYD yn unfrydol RHOI caniatâd cynllunio, gyda’r amodau a fanylir yn yr adroddiad a phwerau dirprwyedig a roddir i Swyddogion Cynllunio i ddiwygio geiriad amodau 4, 5, 6 ac 11 a fanylir yn yr adroddiad.
Cais Rhif C/2022/0123 Tir yn Heol y Fynwent, Glynebwy NP23 6YQ Codi 13 o dai hunanadeiladu, gyda gweithiau allanol cysyllttiedig
Yn dilyn trafodaeth,
PENDERFYNWYD yn unfrydol RHOI caniatâd cynllunio gyda’r amodau a fanylir yn yr adroddiad.
Cais Rhif C/2022/0301 Springfield Cottage, Stryd Brenhines Victoria, Tredegar NP22 3QA Cadw byngalo a lle parcio a mynediad wedi’i addasu
Yn dilyn trafodaeth faith,
PENDERFYNWYD yn unfrydol GWRTHOD caniatâd cynllunio am y rheswm a fanylir yn yr adroddiad.
|
|
Ystyried adroddiad y Swyddog Cymorth Busnes.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad yr Uwch Swyddog Cymorth Busnes.
Dywedodd yr Arweinydd Tîm, Rheoli Datblygu fod camgymeriad yn yr adroddiad. Dylai Cais Rhif C/2022/0234 67 Stryd Marine, Cwm, Glynebwy – Addasu annedd bresennol i greu 4 fflat hunangynwhysedig ddarllen ‘Gwrthodwyd’.
PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.
|
|
Apeliadau, Ymgynghoriadau a Diweddariad DNS Ionawr 2023 PDF 435 KB Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datbygu a Stadau.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth – Datblygu a Stadau.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.
|
|
Diweddariad ar Ddatblygiadau Ceisiadau o Arwyddocad Cenedlaethol PDF 715 KB Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth – Datblygu a Stadau.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.
|
|
Achosion gorfodi a gafodd eu cau rhwng 27 Hydref 2022 a 15 Rhagfyr 2022 Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu
Cofnodion: Gan roi ystyriaeth i’r farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol ynghylch y prawf budd cyhoeddus, o bwyso a mesur popeth, fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.
PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra cynhelir yr eitem hon o fusnes gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).
Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth, Datblygu.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad sy’n cynnwys gwybodaeth yn ymwneud ag unigolyn neilltuol a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.
|