Agenda and minutes

Pwyllgor Craffu Cynllunio - Dydd Iau, 10fed Tachwedd, 2022 10.00 am

Lleoliad: Ar MS Teams

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na chafwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

Cofnodion:

Ni adroddwyd unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Derbyn unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau.

 

Cofnodion:

Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.

 

4.

Meysydd ar gyfer Sesiynau Gwybodaeth a Hyfforddiant Aelodau

Trafod unrhyw feysydd ar gyfer papur gwybodaeth a hyfforddiant aelodau.

 

Cofnodion:

Hysbysodd y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau y cynhelir sesiwn wybodaeth i Aelodau ar ffosffadau ar 30 Tachwedd 2022.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwsanaeth y daeth nifer o geisadau am ddatblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol ar gyfer tyrbinau gwynt i law ac oherwydd yr amserlenni ar gyfer cyflwyno’r Adroddiad Effaith Lleol gofynnodd am ddirprwyo pwerau i’r Swyddogion Cynllunio, mewn cysylltiad â’r Cadeirydd, i gyflwyno’r Adroddiad Effaith Lleol i Lywodraeth Cymru a rhoi adroddiad ôl-weithredol i’r Pwyllgor Cynllunio.

 

Mewn pleidlais unfrydol

 

PENDERFYNWYD RHOI pwerau dirprwyedig i Swyddogion Cynllunio, mewn cysylltiad â’r Cadeirydd, i gyflwyno’r Adroddiad Effaith Lleol i Lywodraeth Cymru yng nghyswllt ceisiadau datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol ar gyfer tyrbinau gwynt.

 

5.

Adroddiad Ceisiadau Cynllunio pdf icon PDF 2 MB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Tîm Rheoli Datblygu.

 

Cofnodion:

Cais Rhif C/2022/0110

55 Stryd Beaufort, Brynmawr, Glynebwy, NP23 4XD

Newid defnydd hen fanc ar y llawr daear (A2) i roi uned manwerthu (A1/A2) a fflat breswyl ychwanegol gyda mynediad yn y cefn yn cynnwys newidiadau i ddrychiad blaen yr adeilad i ddarparu blaen siop newydd, insiwleiddiad wal allanol a ffenestri newydd.

 

Mewn pleidlais,

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol RHOI caniatâd cynllunio.

 

Cais Rhif C/2022/0205

Llain Garej Wag gyferbyn â 66 Attlee Avenue, Roseheyworth, Abertyleri, NP13 1SW

Cynnig am garej ddomestig

 

Mewn pleidlais. 

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol RHOI caniatâd cynllunio.

 

Cais Rhif C/2022/0219

Llain 2, Tir ger Brentwood Place, Trehelyg, Glynebwy NP23 8JR

1 pâr o dai pâr (2 uned) yn cynnwys tir yn cydffinio i’r cefn ac 1 garej

 

Mewn pleidlais,  

 

PENDERFYNWYD un unfrydol RHOI caniatâd cynllunio.

 

6.

Apeliadau, Ymgynghoriadau a Diweddariad DNS Tachwedd 2022 pdf icon PDF 386 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth – Datblygu a Stadau.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth y cafodd yr apêl ei thynnu’n ôl, fodd bynnag ni chafodd yr hysbysiad Gorfodaeth ei dynnu’n ôl a byddai’n parhau yn ei le.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.

 

7.

Rhestr ceisiadau a benderfynwyd dan bwerau dirprwyedig rhwng 18 Medi 2022 a 23 Hydref 2022 pdf icon PDF 329 KB

Ystyried adroddiad y Swyddog Cymorth Busnes.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad yr Uwch Swyddog Cymorth Busnes.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.

 

8.

Achosion gorfodaeth a gafodd eu cau rhwng 22 Awst 2022 a 26 Hydref 2022

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu.

 

Cofnodion:

Gan ystyried y farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol parthed y prawf budd cyhoeddus, o bwyso a mesur popeth fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.

 

PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra cynhelir yr eitem hon o fusnes gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad sy’n cynnwys yn cyfeirio at unigolyn neilltuol a nodir yr wybodaeth a gynhwysir ynddo.