Agenda and minutes

Pwyllgor Craffu Cynllunio - Dydd Iau, 6ed Hydref, 2022 10.00 am

Lleoliad: Ar MS Teams

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na chafwyd unrhyw gais am y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd. 

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

Cofnodion:

Ni adroddwyd unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Derbyn unrhyw ddatganiadau buddiant neu oddefebau..

 

Cofnodion:

Codwyd y datganiad buddiant dilynol:-

 

Cynghorydd L. Winnett

Eitem Rhif  5 – Adroddiad Ceisiadau Cynllunio – Cais Rhif. C/2022/0114 – Tai Carreg Glyn Milwr, Blaenau, Abertyleri

NP13 3AA

 

Adroddwyd na fyddai’r Cynghorydd Winnett yn cymryd rhan yn unrhyw drafodaeth na phleidlais.

 

4.

Meysydd ar gyfer Sesiynau Gwybodaeth a Hyfforddiant Aelodau

Trafod unrhyw feysydd ar gyfer sesiynau gwybodaeth a hyfforddiant aelodau.

 

Cofnodion:

Atgoffodd y Rheolwr Tîm Rheoli Datblygu yr Aelodau am y sesiwn wybodaeth a’r sesiynau hyfforddiant i Aelodau a drefnwyd ar gyfer mis Hydref a mis Tachwedd 2022.

 

5.

Adroddiad Ceisiadau Cynllunio pdf icon PDF 2 MB

Cyflwyno ceisiadau i’w hystyried a’u penderfynu gan Aelodau’r Pwyllgor  Cynllunio. 

 

Cofnodion:

Datganodd y Cadeirydd fuddiant yn yr eitem ddilynol ac ni chymerodd unrhyw ran yn y drafodaeth, a chymerodd yr Is-gadeirydd y gadair am yr eitem hon yn unig.

 

Dywedodd yr Arweinydd Tîm Rheoli Datblygu fod camgymeriad ar dudalen 33 yr adroddiad. Dylaii ail frawddeg pwynt 7.3 ddarllen:-

 

“Gallai egwyddor y datblygiad fod wedi ei wneud yn dderbyniol yn amodol ar ostwng nifer y carafanau ac amodau eraill yn ymwneud â draeniad, cyfyngu gweithgareddau masnachol a cherbydau masnachol ar y safle a gwelliannau ecoleg”.

 

Nododd y Pwyllgor y gwelliant.

 

Cais Rhif C/2022/0114

Tai Cerrig Glyn Milwr, Blaenau, Abertyleri NP13 3AA

Cais ôl-weithredol am ymestyn safle teithwyr i ddarparu ar gyfer 5 llain ychwanegol yn cynnwys tir caled, parcio, toiled, ffensio ac estyniadau i dramwyfa mynediad.

 

Gwnaeth Aelod gynnig o blaid argymhelliad y swyddog, eiliwyd y cynnig ac felly

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i WRTHOD caniatâd cynllunio.

 

 

6.

Apeliadau, Ymgynghoriadau a Diweddariad DNS Hydref 2022 pdf icon PDF 146 KB

Diweddaru Aelodau ar apêl cynllunio a chostau cysylltiedig.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth – Datblygu a Stadau.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.

7.

Rhestr ceisiasdau a benderfynwyd dan bwerau dirprwyedig rhwng 13 Awst 2022 a 17 Medi 2022 pdf icon PDF 174 KB

Rhoi adroddiad am benderfyniadau a gymerir dan bwerau dirprwyedig.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad yr Uwch Swyddog Cymorth Busnes.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.