Lleoliad: O Bell yn Defnyddio Microsoft Teams
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais am hynny.
Cofnodion: Nodwyd na chafwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
CYDYMDEIMLAD
Dymunai’r Is-gadeirydd gyflwyno cydymdeimlad ar ran y Pwyllgor Cynllunio i deulu Sally Ann Evans, Cyfreithiwr, yn dilyn ei marwolaeth drist.
Hysbysodd yr Is-gadeirydd yr Aelodau ymhellach am farwolaeth drist Mr Bobby Davies, tad y Cynghorydd Winnett (Cadeirydd) a fu farw’n sydyn dros y Sul a dymunai’r Is-gadeirydd gyflwyno cydymdeimlad i’r Cadeirydd a’i theulu ar ran y Pwyllgor Cynllunio.
Cafwyd munud o dawelwch fel arwydd o barch.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.
Cofnodion: Cafwyd yr ymddiheuriadau dilynol am absenoldeb:-
Cynghorydd C. Bainton; a’r Cynghorydd Jen Morgan.
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Derbyn unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau.
Cofnodion: Ni wnaed unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.
|
|
Diweddariad ar Apeliadau, Ymgynghoriadau a Datblygiadau o Arwyddocâd Statudol Hydref 2023 PDF 566 KB Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.
|
|
Ystyried adroddiad y Swyddog Cymorth Busnes.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Swyddog Cymorth Busnes.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.
|
|
Nodiadau Cyngor Cynllunio Diwygiedig (PANs) PDF 364 KB Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau.
Os cânt eu mabwysiadu, cynigiwyd y dylid anfon y Nodiadau diwygiedig at bob Aelod o’r Cyngor er gwybodaeth.
PENDERFYNWYD yn unol â hynny.
PENDERFYNWYD YMHELLACH i dderbyn yr adroddiad a bod y Pwyllgor Cynllunio yn mabwysiadu’r Nodiadau diwygiedig a atodir gyda’r adroddiad hwn (Opsiwn 2).
|
|
Meysydd ar gyfer Sesiynau Gwybodaeth a Hyfforddiant Aelodau Trafod unrhyw feysydd ar gyfer sesiynau gwybodaeth a hyfforddiant i aelodau. Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd y byddid yn ail-drefnu’r hyfforddiant gorfodol a gafodd ei ganslo ac y caiff ei gynnal cyn gynted ag sydd modd.
|
|
Achosion cau gorfodaeth rhwng 15 Awst 2023 a 24 Hydref 2023 Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu.
Cofnodion: Gan roi ystyriaeth i’r farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol yng nghyswllt y prawf budd cyhoeddus, o bwyso a mesur popeth, fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.
PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra bod yr eitem hon o fusnes yn cael ei chynnal gan ei bod yn debygol y byddai gwybodaeth eithriedig yn cael ei datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).
Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad sy’n cynnwys gwybodaeth yn ymwneud ag unigolyn neilltuol a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.
|