Lleoliad: O Bell yn Defnyddio Microsoft Teams
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais am hynny.
Cofnodion: Nodwyd na chafwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.
Cofnodion: Cafwyd adroddiad am absenoldeb gan y Cynghorwyr M. Day a Jen Morgan, Y.H.
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Derbyn unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau.
Cofnodion: Ni wnaed unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.
|
|
Adolygiad o’r Gwasanaeth Cynllunio – Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent PDF 883 KB Ystyried yr Adolygiad.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad Archwilio Cymru.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r argymhellion a gynhwysir ynddo.
|
|
Gwybodaeth Perfformiad Chwarterol Rheoli Datblygu – Chwarter 4 – Ionawr i Mawrth 2023 PDF 210 KB Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth – Datblygu a Stadau.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a’r wybodaeth a gynhwysir ynddynt.
|
|
Rheoli Adeiladu – Galw Mas Allan o Oriau i Strwythurau Peryglus PDF 412 KB Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth – Datblygu a Stadau.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad ac mewn pleidlais, cymeradwywyd Opsiwn sef:-
· Parhau â’r trefniant presennol lle nad oes gwarant y bydd Swyddog Rheoli Adeiladu yn mynychu digwyddiad. Mantais yr opsiwn hwn yw ei fod yn golygu llai o gost.
· Fodd bynnag, seilir hyn ar i’r Cyngor gydnabod a derbyn y risg lle byddai gwasanaethau argyfwng angen cyngor proffesiynol ar ddiogelwch strwythur e.e. i fynd i mewn, yna ni fydd unrhyw Swyddog Rheoli Adeiladu yn bresennol.
· Gofynnir i RCSLT ystyried y risg bosibl yma a niwed i enw da, yn gysylltiedig gyda’r hyn a all fod yn ddigwyddiad sylweddol ac nad yw Rheoli Adeiladu yn mynychu.
· Gall hefyd brofi’n amhosibl i ddechrau unrhyw adferiad cost yn erbyn perchnogion eiddo.
|
|
Apeliadau, Ymgynghoriadau a Diweddariad DNS Gorffennaf 2023 PDF 563 KB Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth – Datblygu a Stadau.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.
|
|
Ystyried adroddiad y Swyddog Cymorth Busnes.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Swyddog Cymorth Busnes.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.
|
|
Meysydd ar gyfer Sesiynau Gwybodaeth a Hyfforddiant Aelodau Trafod unrhyw feysydd ar gyfer sesiynau gwybodaeth a hyfforddiant i aelodau. Cofnodion: Adroddodd y Cadeirydd y byddir yn trefnu’r sesiynau Gwybodaeth i Aelodau dilynol maes o law: · Hyfforddiant Gorfodaeth · Adran 106 · Ystyriaethau Cynllunio Sylweddol
Nodwyd y cynigir y sesiynau hyfforddiant i holl Aelodau’r Cyngor.
|