Lleoliad: O Bell yn Defnyddio Microsoft Teams
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais am hynny.
Cofnodion: Nodwyd na chafwyd unrhyw geisiadau am y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd. |
|
Ymddiheuriadau Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.
Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb can y Cynghorydd Jen Morgan.
Gofynnodd y Cadeirydd am i lythyr gael ei anfon at y Cynghorydd Morgan yn dymuno adferiad cynnar iddi gan Aelodau’r Pwyllgor Cynllunio.
PENDERFYNWYD yn unol â hynny.
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Derbyn unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau.
Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.
|
|
Meysydd ar gyfer Sesiynau Gwybodaeth a Hyfforddiant Aelodau Trafod unrhyw feysydd ar gyfer sesiynau gwybodaeth a hyfforddiant aelodau.
Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd fod y sesiynau gwybodaeth dilynol ar y gweill ar gyer aelodau:- · Hyfforddiant Gorfodaeth · Adran 106
Ychwanegwyd y byddai’r sesiynau yn fuddiol i holl Aelodau’r Pwyllgor Cynllunio ond y cânt eu cynnig i holl Aelodau eraill y Cyngor er gwybodaeth.
|
|
Amser Cyfarfodydd y Dyfodol Ystyried amser cyfarfodydd y dyfodol.
Cofnodion: Cynigiwyd cynnal cyfarfodydd y dyfodol am 10.00 a.m.
PENDERFYNWYD yn unol â hynny.
|
|
Adroddiad Ceisiadau Cynllunio PDF 2 MB Ystyried adroddiad y Rheolwr Tîm Rheoli Datblygu.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Tîm Rheoli Datblygu.
Cais Rhif c/2022/0265 1 Cross Brook Cottages, Trefil, Tredegar Cadw datblygiad y t? newydd fel y cafodd ei godi, adnewyddu’r adeilad tu allan presennol yn garej gydag ystafell uwchben a lle parcio yn lle
Mewn pleidlais unfrydol
PENDERFYNWYD RHOI caniatâd cynllunio gyda’r amodau a fanylir yn yr adroddiad.
Ni chymerodd yr Aelod Ward, Cynghorydd D. Rowberry, ran yn y broses pleidleisio.
Cais Rhif C/2023/0060 Uned 21, Stad Ddiwydiannol Rising Sun, Blaenau, NP23 3JW Codi adeilad gweithgynhyrchu newydd sy’n ymestyn yng nghefn y prif adeilad presennol ac yn lapio o amgylch y t? i gynyddu ôl-troed gweithgynhyrchu, cyfleuster storio lefel uchaf gyda gofod iard nwyddau’n cyrraedd/gadael a thirlunio dilynol o amgylch y terfyn gyda lleoedd parcio ychwanegol
Mewn pleidlais unfrydol
PENDERFYNWYD RHOI caniatâd cynllunio, gyda’r amodau a nodir yn yr adroddiad a dirprwyo p?er i swyddogion wneud penderfyniadau yn y dyfodol.
Ni chymerodd yr Aelod Ward, Cynghorydd L. Winnett, ran yn y broses bleidleisio.
|
|
Gwybodaeth Perfformiad Chwarterol Rheoli Datblygu PDF 400 KB Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth – Datblygu a Stadau.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth gynhwysir ynddo.
|
|
Cynllun Dirprwyo – Pwyllgor Cynllunio PDF 260 KB Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth – Datblygu a Stadau.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chymeradwyo’r newidiadau a nodir yn yr adroddiad hwn (Opsiwn 2).
Gadawodd y Cynghorydd D. Wilkshire y cyfarfod ar y pwynt hwn.
|
|
Deall Llesiant Cynllunwyr yng Nghymru ac Adrannau Rheoli Datblygu yn y Deyrnas Unedig PDF 427 KB Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Gwasanaethau Datblygu a Stadau. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth – Datblygu a Stadau.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chymeradwyo’r mesurau a nodir i ddiogelu llesiant staff, cadw staff ac adeiladu timau cydnerth.
|
|
Diweddariad Apêl Cynllunio: 2 Stryd y Farchnad, Abertyleri, NP13 1AH. PDF 361 KB Ystyried adroddiad y Swyddog Cynllunio.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Swyddog.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi penderfyniad yr apêl ar gyfer cais cynllunio C/2022/0199 fel y’i rhoddir yn Atodiad B.
|
|
Diweddariad Apêl Cynllunio: 7 Beaufort Terrace, Beaufort, Glynebwy, PDF 265 KB Ystyried adroddiad yr Arweinydd Tîm Rheoli Datblygu.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Swyddog Cynllunio.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi penderfyniad yr apêl ar gyfer cais cynllunio C/2022/0047 fel y’i rhoddir yn Atodiad A.
|
|
Apeliadau, Ymgynghoriadau a Diweddariad DNS Mehefin 2023 PDF 530 KB Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau. Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth – Datblygu a Stadau.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.
|
|
Rhestr ceisiadau a benderfynwyd dan bwerau dirprwyedig rhwng 4 Ebrill 2023 a 29 Mai 2023 PDF 370 KB Ystyried adroddiad y Swyddog Cymorth Busnes.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad yr Uwch Swyddog Cymorth Busnes.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.
|
|
Achosion gorfodaeth a gafodd eu cau rhwng 23 Chwefror 2023 a 25 Mai 2023 Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu.
Cofnodion: Gan roi ystyriaeth i’r farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol ynghylch y prawf budd cyhoeddus, o bwyso a mesur popeth fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.
PENDERFYNWYD eithrio’r busnes tra cynhelir yr eitem hon o fusnes gan ei bod yn debyg y byddai datgeliad gwybodath eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).
Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad sy’n cynnwys gwybodaeth yn ymwneud ag unigolyn neilltuol a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.
|