Agenda and minutes

Pwyllgor Craffu Cynllunio - Dydd Iau, 20fed Ebrill, 2023 10.00 am

Lleoliad: Ar MS Teams

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais am hynny

 

Cofnodion:

Nodwyd na chafwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

Cofnodion:

Ni adroddwyd unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Derbyn unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau.

 

Cofnodion:

Nodwyd y datganiadau buddiannau dilynol:-

 

Cynghorydd W. Hodgins

Eitem Rhif 5 – Adroddiad Ceisiadau Cynllunio – Cais C/2023/0012 - Unedau 2 a 3A (Home Bargains a Peacocks) Parc Manwerthu Lakeside Nantyglo Brynmawr NP23 4SL – Gosod llawr mezzanine yn Unedau 2 a 3A.

 

Dywedwyd na fyddai’r Cynghorydd Hodgins yn cymryd yn y rhan yn y drafodaeth nac yn pleidleisio.

 

Cynghorydd W. Hodgins

Eitem Eithriedig 8 – Adroddiad Diweddaru Erlyniad Gorfodaeth

 

Dywedwyd na fydd y Cynghorydd Hodgins yn cymryd rhan yn y drafodaeth ar gyfer un o’r safleoedd a nodir yn yr adroddiad.

 

4.

Meysydd ar gyfer Sesiynau Gwybodaeth a Hyfforddiant Aelodau

Trafod unrhyw feysydd ar gyfer sesiynau gwybodaeth a hyfforddiant aelodau.

 

Cofnodion:

Ni chafodd unrhyw feysydd ar gyfer Hyfforddiant/Sesiynau Gwybodaeth i Aelodau eu nodi.

 

5.

Adroddiad Ceisiadau Cynllunio pdf icon PDF 5 MB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Tîm Rheoli Datblygu.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Tîm Rheoli Datblygu.

 

Cais Rhif C/2023/0004

The Kings Arms, Heol Newchurch, Glynebwy NP23 5BD

Newid defnydd t? tafarn gydag ystafelloedd gwely gosod (A3)

i Westy (C1)

 

Cynigiodd Aelod bod Llyfr Cofrestru Presenoldeb ar gyfer ymweliadau heb fod yn hirach na 28 diwrnod yn cael eu hychwanegu at yr amodau cynllunio. Eiliwyd y cynnig.

 

Mewn pleidlais

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i ROI caniatâd cynllunio, gyda’r amodau a fanylir yn yr adroddiad gyda chynnwys amod ychwanegol am lyfr Cofrestr Presenoldeb ar gyfer ymweliadau heb fod yn fwy na chyfnod o 28 diwrnod.

 

Cais Rhif C/2023/0012

Unedau 2 & 3A (Home Bargains a Peacocks) Parc Manwerthu Lakeside Nantyglo Brynmawr NP23 4SL

Gosod llawr mezzanine yn Unedau 2 a 3A

 

Hysbysodd y Swyddog Cynllunio yr Aelodau am ddau ddiwygiad yn yr adroddiad. Yn gyntaf dylai paragraff 1.8 ddarllen ‘ar gyfer dibenion manwerthu’ ar ddiwedd y paragraff ac yn ail, dylai paragraff 1.19 ar gyfer Uned 3A ddarllen ‘gyda llawr mezzanine ar gyfer storio yn unig).

 

PENDERFYNWYD yn unol â hynny.

 

Mewn pleidlais

 

PENDERFYNWYD YMHELLACH yn unfrydol i ROI caniatâd cynllunio gyda’r amodau a nodir yn yr adroddiad.

 

Ni wnaeth y Cynghorydd Hodgins gymryd rhan yn y drafodaeth na phleidleisio.

 

Cais Rhif C/2022/0309

Tir i dde Fair View, Ashvale, Tredegar

Datblygiad preswyl a gwaith cysylltiedig

 

Ymunodd y Rheolwr Tîm Rheoli Datblygu â’r cyfarfod ar y pwynt hwn.

 

Yn dilyn trafodaeth

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i ROI caniatâd cynllunio a rhoi pwerau wedi eu dirprwyo i Swyddogion Cynllunio i wneud diwygiadau i’r amodau a fanylir yn yr adroddiad.

 

Cais Rhif C/2022/0117

Clwb The Willows, Stryd yr Eglwys, Tredegar, NP22 3DS

Dymchwel y clwb cymdeithasol presennol a chodi (2 x pâr) o anheddau pâr 3 ystafell wely, gyda pharcio oddi ar y ffordd

 

Mewn pleidlais, pleidleisiodd 6 Aelod o blaid argymhelliad y swyddog, pleidleisiodd 3 Aelod yn erbyn argymhelliad y swyddog ac ymataliodd 1 Aelod ei bleidlais.

 

Ar hynny PENDERFYNWYD i ROI caniatâd cynllunio, gyda’r amodau a fanylir yn yr adroddiad.

 

Cais Rhif C/2023/0055

74A a Caleb Cottage, Stryd Brenin, Brynmawr, NP23 4RG

Cais i amrywio amodau 2 a 4 i ddiwygio darpariaeth parcio caniatâd cynllunio C/2022/0186 (Newid defnydd swyddfeydd llawr daear a llety byw ar y llawr cyntaf a’r ail lawr i greu dwy annedd ynghyd ag addasu a newid defnydd Caleb Cottage i un annedd ynghyd â gwaith allanol cysylltiedig, creu gardd a darparu parcio)

 

Yn dilyn trafodaeth

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i ROI caniatâd cynllunio a rhoi pwerau wedi eu dirprwyo i’r Swyddogion Cynllunio i wneud diwygiadau i amod 4 a fanylir yn yr adroddiad.

 

6.

Apeliadau, Ymgynghoriadau a Diweddariad DNS Ebrill 2023 pdf icon PDF 559 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth – Datblygu a Stadau.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.

 

7.

Rhestr ceisiadau a benderfynwyd dan bwerau dirprwyedig rhwng 25 Chwefror 2023 a 3 Ebrill 2023. pdf icon PDF 353 KB

Ystyried adroddiad y Swyddog Cymorth Busnes.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad yr Uwch Swyddog Cymorth Busnes.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.

 

8.

Adroddiad Diweddaru Gorfodi Erlyniad

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu.

 

Cofnodion:

Gan roi ystyriaeth i’r farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol ynghylch y prawf budd cyhoeddus, o bwyso a mesur popeth fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.

 

PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra cynhelir yr eitem hon o fusnes gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad sy’n cynnwys gwybodaeth yn ymwneud ag unigolyn neilltuol a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.