Lleoliad: Ar MS Teams
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.
Cofnodion: Nodwyd na chafwyd unrhyw gais am y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.
Cofnodion: Ni adroddwyd unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Derbyn unrhyw ddatganiadau buddiant neu oddefebau..
Cofnodion: Codwyd y datganiad buddiant dilynol:-
Cynghorydd L. Winnett Eitem Rhif 5 – Adroddiad Ceisiadau Cynllunio – Cais Rhif. C/2022/0114 – Tai Carreg Glyn Milwr, Blaenau, Abertyleri NP13 3AA
Adroddwyd na fyddai’r Cynghorydd Winnett yn cymryd rhan yn unrhyw drafodaeth na phleidlais.
|
|
Meysydd ar gyfer Sesiynau Gwybodaeth a Hyfforddiant Aelodau Trafod unrhyw feysydd ar gyfer sesiynau gwybodaeth a hyfforddiant aelodau.
Cofnodion: Atgoffodd y Rheolwr Tîm Rheoli Datblygu yr Aelodau am y sesiwn wybodaeth a’r sesiynau hyfforddiant i Aelodau a drefnwyd ar gyfer mis Hydref a mis Tachwedd 2022.
|
|
Adroddiad Ceisiadau Cynllunio PDF 2 MB Cyflwyno ceisiadau i’w hystyried a’u penderfynu gan Aelodau’r Pwyllgor Cynllunio.
Cofnodion: Datganodd y Cadeirydd fuddiant yn yr eitem ddilynol ac ni chymerodd unrhyw ran yn y drafodaeth, a chymerodd yr Is-gadeirydd y gadair am yr eitem hon yn unig.
Dywedodd yr Arweinydd Tîm Rheoli Datblygu fod camgymeriad ar dudalen 33 yr adroddiad. Dylaii ail frawddeg pwynt 7.3 ddarllen:-
“Gallai egwyddor y datblygiad fod wedi ei wneud yn dderbyniol yn amodol ar ostwng nifer y carafanau ac amodau eraill yn ymwneud â draeniad, cyfyngu gweithgareddau masnachol a cherbydau masnachol ar y safle a gwelliannau ecoleg”.
Nododd y Pwyllgor y gwelliant.
Cais Rhif C/2022/0114 Tai Cerrig Glyn Milwr, Blaenau, Abertyleri NP13 3AA Cais ôl-weithredol am ymestyn safle teithwyr i ddarparu ar gyfer 5 llain ychwanegol yn cynnwys tir caled, parcio, toiled, ffensio ac estyniadau i dramwyfa mynediad.
Gwnaeth Aelod gynnig o blaid argymhelliad y swyddog, eiliwyd y cynnig ac felly
PENDERFYNWYD yn unfrydol i WRTHOD caniatâd cynllunio.
|
|
Apeliadau, Ymgynghoriadau a Diweddariad DNS Hydref 2022 PDF 146 KB Diweddaru Aelodau ar apêl cynllunio a chostau cysylltiedig.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth – Datblygu a Stadau.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo. |
|
Rhestr ceisiasdau a benderfynwyd dan bwerau dirprwyedig rhwng 13 Awst 2022 a 17 Medi 2022 PDF 174 KB Rhoi adroddiad am benderfyniadau a gymerir dan bwerau dirprwyedig.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad yr Uwch Swyddog Cymorth Busnes.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.
|