Lleoliad: via MS Teams (if you would like to view this meeting please contact michelle.hicks@blaenau-gwent.gov.uk)
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.
Cofnodion: Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Derbyn unrhyw ddatganiadau buddiant neu oddefebau..
Cofnodion: Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.
Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr J. Gardner a J. Morgan a’r Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau.
|
|
Meysydd ar gyfer Sesiynau Gwybodaeth a Hyfforddiant Aelodau Trafod unrhyw feysydd ar gyfer sesiynau gwybodaeth a hyfforddiant aelodau.
Cofnodion: Ni nodwyd unrhyw feysydd ar gyfer Sesiynau Gwybodaeth/Hyfforddiant i Aelodau.
|
|
Adroddiad Ceisiadau Cynllunio PDF 7 MB Ystyried adroddiad y Rheolwr Tîm Rheoli Datblygu.
Cofnodion: Cais Rhif C/2022/0103 Cae Chwarae a Thir ger Chartist Way, Tredegar Cynnig am ysgol gynradd Gymraeg newydd, yn cynnwys ardal newydd ar gyfer gollwng a chodi disgyblion, parcio staff, lle i bws droi yn cynnwys ardaloedd gemau aml-chwarae a symud y cae chwarae presennol
Pleidleisiodd 8 Aelod o blaid a phleidleisiodd 1 aelod yn erbyn argymhelliad y swyddog. Ar hynny,
PENDERFYNWYD RHOI caniatâd cynllunio.
Cais Rhif C/2021/0329 Heol Park Hill, tir ger Park Hill, Tredegar Adeiladu tair annedd ar wahân newydd gyda thramwyfa newydd a gaiff eu rhannu gyda darpariaeth parcio ar gyfer 2 gar ar bob llain, yn cynnwys gwaith tirlunio, gwasanaethau a gwella priffordd oddi ar y safle
Mewn pleidlais a gynhaliwyd,
PENDERFYNWYD yn unfrydol RHOI caniatâd cynllunio.
Cais rhif C/2021/0366 Cyflwyno Materion a Gadwyd ar gyfer cymeradwyaeth yng nghyswllt cynllun (47 uned), ymddangosiad, maint, tirlunio a gwaith cysylltiedig yn gysylltiedig â chaniatâd cynllunio amlinellol C/2018/0205
Pleidleisiodd 8 aelod o blaid ac 1 Aelod yn erbyn argymhelliad y swyddog. Ar hynny
PENDERFYNWYD RHOI caniatâd cynllunio.
Cais Rhif C/2022/0164 Shoda Sauces, Unedau 19 a 20, Stad Ddiwydiannol Rising Sun, Blaenau, NP13 3JW Codi adeilad storio newydd ar wahân dros yr ardal tir caled presennol, gyda swyddfa ategol, ardal barcio arall a mynedfa newydd a gwaith cysylltiedig
Mewn pleidlais,
PENDERFYNWYD un unfrydol RHOI caniatâd cynllunio.
Cais Rhif C/2022/0186 74A a Caleb Cottage Stryd Brenin Brynmawr Glynebwy NP23 4RG Newid defnydd swyddfeydd llawr daear a llety byw ar y llawr cyntaf a’r ail lawr i greu dwy annedd ynghyd ag addasu a newid defnydd Caleb Cottage i un annedd ynghyd â gwaith allanol cysylltiedig, creu gardd a darparu parcio
Mewn pleidlais,
PENDERFYNWYD yn unfrydol RHOI caniatâd cynllunio.
|
|
Apeliadau, Ymgynghoriadau a Diweddariad DNS mis Medi 2022 PDF 150 KB Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth – Datblygu a Stadau.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.
|
|
Ystyried adroddiad y Swyddog Cymorth Busnes.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad yr Uwch Swyddog Cymorth Busnes.
Dywedodd y Cadeirydd fod camgymeriad ar dudalen 120 yr adroddiad, dylai C/2022/0146 ddarllen 68B Stryd Fawr, Blaenau a dylai C/2022/0113 ddarllen Ysgol Gatholig Santes Fair.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.
|
|
Achosion gorfodaeth a gafodd eu cau rhwng 31 Mai 2022 a 22 Awst 2022 Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu.
Cofnodion: Gan ystyried y farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol am y prawf budd cyhoeddus, o bwyso a mesur popeth, fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.
PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra cynhaliwyd yr eitem hon o fusnes gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y’i diffiniwyd ym Mharagraffau 12, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).
Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad sy’n cynnwys gwybodaeth yn ymwneud ag unigoly neilltuol a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.
|