Lleoliad: O Bell yn Defnyddio Microsoft Teams
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.
Cofnodion: Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Derbyn unrhyw ddatganiadau buddiant neu oddefebau.
Cofnodion: Codwyd y datganiadau buddiant dilynol:-
Cynghorydd D. Wilkshire Eitem Rhif 5 – Adroddiad Ceisiadau Cynllunio – Cais Rhif C/2022/0081 – Tir ger T? Coed, Sycamore Drive, Rasa, Glynebwy – Annedd ar Wahân.
Dywedwyd na fyddai’r Cynghorydd Wilkshire yn cymryd rhan mewn unrhyw drafodaeth neu bleidlais.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.
Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd W. Hodgins.
|
|
Amser Cyfarfodydd y Dyfodol Trafod amser cyfarfodydd y dyfodol.
Cofnodion: Cynigiwyd ac eiliwyd y cynhelir cyfarfodydd y dyfodol am 10.00 a.m.
PENDERFYNWYD yn unol â hynny.
|
|
Adroddiad Ceisiadau Cynllunio PDF 3 MB Ystyried adroddiad y Rheolwr Tîm Rheoli Datblygu.
Cofnodion: Cais Rhif C/2022/0081 Tir ger T? Coed, Sycamore Drive, Rasa, Glynebwy Ty ar Wahân
Mewn pleidlais, pleidleisiodd 4 Aelod o blaid argymhelliad y swyddog a phleidleisiodd 2 Aelod yn erbyn argymhelliad y swyddog, Felly
PENDERFYNWYD RHOI caniatâd cynllunio.
Ni chymerodd y Cynghorydd Wilkshire ran yn y bleidlais.
Cais Rhif C/2021/0290 Tir ger Park Hill Road, Tredegar Amrywio Amod 1 (Ymestyn oes caniatâd) caniatâd cynllunio C/2015/0237 (datblygiad newydd ar gyfer 141 annedd)
Dywedodd y Swyddog Cynllunio y dylai’r swm o £350,000 a nodir yn 5.3 y cais yng nghyswllt swm gohiriedig i’w ddefnyddio ar gyfer prosiectau ar warchodfeydd natur lleol fod yn £35,000.
PENDERFYNWYD yn unol â hynny
PENDERFYNWYD YMHELLACH yn unfrydol RHOI caniatâd cynllunio.
Cais Rhif C/2021/0329 Tir ger Park Hill, Park Hill Road, Tredegar Adeiladu tair annedd newydd ar wahân a gaiff eu gwasanaethu gan dramwyfa newydd a gaiff eu rhannu gyda darpariaeth parcio ar gyfer 2 car ar bob llain; yn cynnwys tirlunio, gwasanaethau a gwaith gwella priffyrdd oddi ar y safle.
Adroddwyd y cafodd y cais hwn ei OHIRIO.
Cais Rhif C/2022/0100 Tir i’r Gogledd o Uned 33, Stad Ddiwydiannol Rasa, Rasa Codi adeilad ar gyfer defnydd B1/B2/B8 i ddarparu chwe uned, ynghyd â lleoedd parcio cysylltiedig, mynedfa a stôr beiciau
PENDERFYNWYD yn unfrydol RHOI caniatâd cynllunio.
|
|
Apeliadau, Ymgynghoriadau a Diweddariad DNS Gorffennaf 2022 PDF 152 KB Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth – Datblygu a Stadau.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.
|
|
Diweddariad Apêl Cynllunio: 14 Rhyd Clydach, Brynmawr PDF 134 KB Ystyried adroddiad y Swyddog Cynllunio.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Swyddog Cynllunio.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi penderfyniad yr apêl ar gyfer cais cynllunio C/2021/0157.
|
|
Diweddariad Apêl Cynllunio: Dan-y-Bryn, Heol Casnewydd, Pochin, Tredegar PDF 136 KB Ystyried adroddiad y Swyddog Cynllunio.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Swyddog Cynllunio.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi penderfyniad yr apêl ar gyfer cais cynllunio C/2021/0095.
|
|
Ystyried adroddiad y Swyddog Cymorth Busnes.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad yr Uwch Swyddog Cymorth Busnes.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.
|
|
Gwybodaeth Perfformiad Chwarterol Chwarter 3 : Hydref i Rhagfyr 2021 PDF 557 KB Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.
|
|
Meysydd ar gyfer Sesiynau Gwybodaeth a Hyfforddiant Aelodau Trafod unrhyw feysydd ar gyfer sesiynau gwybodaeth a hyfforddiant i aelodau.
Cofnodion: Adroddwyd y sesiynau gwybodaeth/hyfforddiant dilynol i aelodau:
· Sesiwn Gwybodaeth ar gyfer rhai heb fod yn Aelodau o’r Pwyllgor Cynllunio – 19 Medi 2022, sydd hefyd ar agor i Aelodau’r Pwyllgor Cynllunio.
· Sesiwn Gwybodaeth ar Orfodaeth i’w drefnu ym mis Medi gan na chafodd ei gwblhau fel rhan o’r hyfforddiant gorfodol ym mis Gorffennaf.
Nodwyd a derbyniwyd y sesiynau gwybodaeth/hyfforddiant dilynol uchod ar gyfer aelodau.
|
|
Diweddariad Achos Gorfodaeth Ystyried adroddiad y Swyddog Cydymffurfiaeth.
Cofnodion: Gan roi ystyriaeth i’r farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol am y prawf budd cyhoeddus, o bwyso a mesur popeth, fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth hon ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.
PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra bod yr eitem hon o fusnes yn cael ei thrin gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y’i diffiniwyd ym Mharagraff 12, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd). Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Swyddog Cydymffurfiaeth.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad sy’n cynnwys gwybodaeth yn cyfeirio at unigolyn neilltuol a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.
|