Agenda and minutes

Pwyllgor Craffu Partneriaethau - Dydd Iau, 16eg Tachwedd, 2023 10.00 am

Lleoliad: Hybrid Meeting via Microsoft Teams/Sir Abraham Darby Meeting Room, General Offices, Ebbw Vale

Cyswllt: E-bost: committee.services@blaenau-gwent.gov.uk 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais am hynny.

 

Cofnodion:

Nodwyd na chafwyd unrhyw geisiadau am y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Ni adroddwyd unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.

 

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd W. Hodgins fuddiant yn y dilynol:

 

Eitem Rhif 8 Datganiad Sefyllfa Perfformiad o gymharu â’r Cytundeb Lefel Gwasanaeth gyda’r Gwasanaeth Rhannu Adnoddau (SRS) am y cyfnod 1 Ebrill 2022 i 31 Mawrth 2023.

 

4.

Pwyllgor Craffu Partneriaethau pdf icon PDF 75 KB

Derbyn penderfyniadau cyfarfod arbennig y Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar 19 Hydref 2023.

 

(Dylid nodi y cyflwynir y penderfyniadau er pwyntiau cywirdeb yn unig).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd penderfynaidau’r cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar 19 Hydref 2023.

 

CYTUNODD y Pwyllgor yn unfrydol i dderbyn y penderfyniadau fel cofnod gywir o drafodion.

 

5.

Dalen Weithredu pdf icon PDF 50 KB

Derbyn y ddalen weithredu.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd y Ddalen Weithredu yn deillio o’r cyfarfod arbennig a gynhaliwyd ar 19 Hydref 2023.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i nodi’r ddalen weithredu.

 

Newid yn Nhrefn yr Agenda

Dywedodd y Cadeirydd y caiff eitem Rhif 8 ei hystyried yn gyntaf ar yr agenda.

 

6.

Datganiad Sefyllfa Perfformiad o gymharu â’r Cytundeb Lefel Gwasanaeth gyda’r Gwasanaeth Rhannu Adnoddau (SRS) am y cyfnod 1 Ebrill 2022 i 31 Mawrth 2023 pdf icon PDF 270 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid.

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn Opsiwn 1, sef:

 

·       Bod y Pwyllgor yn ystyried y datganiad sefyllfa ar berfformiad ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2022 i 31 Mawrth 2023 o gymharu â’r Cytundeb Lefel Gwasanaeth oedd yn ei le gyda SRS, cyn ei gyflwyno i’r Cabinet; a

·       Derbyn diweddariad blynyddol fel rhan o bartneriaeth barhaus gyda SRS.

 

7.

Ffurflen Flynyddol 2021/22 Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru pdf icon PDF 157 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Pobl Ifanc a Phartneriaethau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Pobl Ifanc a Phartneriaethau.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr wybodaeth a fanylir yn yr adroddiad (Opsiwn 1).

 

8.

Perfformiad a Monitro Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin pdf icon PDF 872 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Pobl Ifanc a Phartneriaethau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth, Pobl Ifanc a Phaertneriaethau.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad ac i gefnogi’r Ymddiriedolaeth wrth wneud arbedion ynni, argymhellodd y Pwyllgor fod y Cyngor yn edrych ar waith sydd angen ei wneud i ddefnyddio’r ganolfan ynni ar Safle’r Gwaith Dur (Opsiwn 2)

 

9.

Blaenraglen Gwaith: 22 Chwefror 2024 pdf icon PDF 105 KB

Derbyn yr adroddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Swyddog Craffu a Democrataidd.

 

Cyflwynir yr Adroddiad ar Llyfrgelloedd Cymru i gyfarfod o’r Pwyllgor yn y dyfodol.

 

CYTUNODD y Pwyllgor, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a’r flaenraglen gwaith ar gyfer y cyfarfod ar 22 Chwefror 2024 (Opsiwn 1).