Agenda and minutes

Pwyllgor Craffu Partneriaethau - Dydd Mawrth, 22ain Tachwedd, 2022 9.30 am

Lleoliad: O Bell yn Defnyddio Microsoft Teams

Cyswllt: E-bost: jones.deb@blaenau-gwent.gov.uk 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na chafwyd unrhyw gais am y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau

 

Cofnodion:

Adroddwyd ymddiheuriadau am absenoldeb ar gyfer y Cynghorwyr P. Baldwin a D. Woods.

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.

 

Cofnodion:

Adroddwyd y datganiadau buddiant dilynol:

 

Cynghorydd W. Hodgins – Eitem Rhif 6 Datganiad Safle

Shared Resource Service (SRS)

 

4.

Pwyllgor Craffu Partneriaethau pdf icon PDF 256 KB

Derbyn penderfynaidau’r Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar 14 Hydref 2022.

 

(Dylid nodi y cyflwynir y penderfyniadau er pwyntiau cywirdeb yn unig).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd penderfyniadau’r Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar 14 Hydref 2022.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i gadarnhau’r cofnodion.

5.

Dalen Weithredu pdf icon PDF 121 KB

Derbyn y ddalen weithredu.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd y Ddalen Weithredu yn deillio o’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Hydref 2022.

 

CYTUNOD y Pwyllgor i nodi’r ddalen weithredu.

 

6.

Datganiad Sefyllfa Gwasanaethau Rhannu Adnoddau (SRS) pdf icon PDF 591 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyraieth i’r adroddiad ar y cyd gan y Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid a Phrif Swyddog Gweithredu SRS.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chefnogi Opsiwn 1 sef:

  • Ystyried a chefnogi’r datganiad safle ar yr amcanion a nodir yn y Cynllun Busnes, cyn ei gymeradwyo gan y Cyngor; a
  • Derbyn diweddariadau rheolaidd fel rhan o’r bartneriaeth barhaus gyda SRS.

 

7.

Perfformiad a Monitro Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin pdf icon PDF 882 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Pobl Ifanc a Phartneriaethau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Pobl Ifanc a Phartneriaethau.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chefnogi Opsiwn 2, sef:

 

Bod yr Aelodau yn ystyried yr wybodaeth a fanylir yn yr adroddiad ac yn gwneud argymhellion priodol cyn cymeradwyaeth derfynol ac felly argymhellodd y Pwyllgor Craffu fod y Cabinet yn ystyried y cais bod adroddiadau monitro yn cael ei darparu ar gyfer cynllunio ariannol y dyfodol yn ogystal â gwybodaeth monitro 6 misol.

 

8.

Blaenraglen Gwaith: 7 Chwefror 2023 pdf icon PDF 391 KB

Derbyn yr adroddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhodwyd ystyriaeth i adroddiad y Swyddog Craffu a Democrataidd.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i Opsiwn 1, sef:

 

  • Ystyried y Flaenraglen Gwaith ar gyfer cyfarfod 7 Chwefror 2023 a gwneud unrhyw newidiadau i’r pynciau a drefnwyd ar gyfer y cyfarfod;
  • Awgrymu unrhyw wahoddedigion allweddol y mae’r Pwyllgor eu hangen i roi ystyriaeth lawn i’r cyfarfodydd; a
  • Gofyn am gynnwys unrhyw wybodaeth ychwanegol yng nghyswllt y pynciau i gael eu trafod; felly
  • Cytunodd y Pwyllgor i wneud trefniadau ar gyfer Sesiwn Wybodaeth i Aelodau ar bartneriaeth y Cyngor gydag Ymddiriedolaeth Awen.