Agenda and minutes

Pwyllgor Craffu Partneriaethau - Dydd Gwener, 14eg Hydref, 2022 10.00 am

Lleoliad: Cyfarfod Hybrid ar Microsoft Teams/Ystafell Cyfarfod Abraham Derby, Swyddfeydd Cyffredinol, Glynebwy

Cyswllt: E-bost: jones.deb@blaenau-gwent.gov.uk 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Adroddwyd ymddiheuriadau am absenoldeb ar gyfer y Cynghorwyr L. Parsons, D. Woods, y Pennaeth Llywodraethiant a Phartneriaethau a’r Prif Swyddog Masnachol.

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.

 

Cofnodion:

Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.

 

4.

Pwyllgor Craffu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus pdf icon PDF 207 KB

Derbyn cofnodion y cyfarfod o Bwyllgor Craffu y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a gynhaliwyd ar 28 Ionawr 2022.

 

(Dylid nodi y cyflwynir y cofnodion er pwyntiau cywirdeb yn unig).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol a gynhaliwyd ar 28 Ionawr 2022.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i gadarnhau’r cofnodion.

 

5.

Dalen Weithredu – Pwyllgor Craffu y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus – 28 Ionawr 2022 pdf icon PDF 187 KB

Nodi’r ddalen weithredu.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd y Ddalen Weithredu yn deillio o’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Ionawr 2022.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i nodi’r ddalen weithredu.

 

6.

Canlyniadau Arolwg Amser Cyfarfodydd pdf icon PDF 501 KB

Derbyn yr adroddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Swyddog Craffu a Democrataidd.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i gynnal y Drafodaeth ar Reoli’r Agenda am 9.00am, gyda’r cyfarfod ffurfiol i ddechrau am 9.30am (Opsiwn 2).

 

7.

Blaenraglen Waith Arfaethedig y Pwyllgor Craffu ar gyfer 2022-23 pdf icon PDF 386 KB

Derbyn yr adroddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Swyddog Craffu a Democrataidd.

 

CYTUNODD y Pwyllgor ar y Flaenraglen Gwaith ar gyfer y Pwyllgor Craffu Partneriaethau (Opsiwn 1).

 

8.

Cytundeb Partneriaeth Ysgolion Statudol a Gynhelir pdf icon PDF 418 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Strategol Gwella Addysg.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a rhoddodd sylwadau i hybu datblygiad y Cytundeb Partneriaeth Statudol a thrwy, wneud hynny, ddylanwadu ar y ffordd y mae’r Awdurdod Lleol yn gweithio gydag ysgolion a chyrff llywodraethu, ar gyfer ei gymeradwyo gan y Pwyllgor Gweithrediaeth. (Opsiwn 1)

 

9.

Trefniadau Cydweithio Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Mabwysiadu a Maethu Awdurdodau Lleol Cymru pdf icon PDF 514 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn a chymeradwyo’r adroddiad (Opsiwn 1), sef:

  • Argymell i’r Cyngor i fabwysiadu’r cynigion ar gyfer datblygu’r trefniadau llywodraethiant ar gyfer Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru, wrth iddo ddod yn gyfrifol am maethu Cymru;

 

  • Cadarnhau cefnogaeth i’r Cytundeb Cyd.bwyllgor ar gyfer y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol a Maethu Cymru ac i’r awdurdod lofnodi’r cytundeb.

 

  • Drwy eu Hadroddiad Aelodaeth, y Cyngor i enwebu yn ffurfiol y cynrychiolydd o Flaenau Gwent i eistedd ar y Cydbwyllgor.

 

10.

Ymgynghoriad ar y Drafft Gynllun Llesiant ar gyfer Gwent pdf icon PDF 428 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Llywodraethiant a Phartneriaethau..

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn a chymeradwyo’r adroddiad |(Opsiwn 2), sef:

 

  1. Ystyried drafft Gynllun Llesiant Gwent;
  2. Roi sylwadau ychwanegol fel rhan o’r ymgynghoriad; ac
  3. Argymell sylwadau i Fwrdd Gwasanaethau Gwent i gael eu hystyried fel eu hymateb fel ymgynghorai statudol.