Agenda and minutes

Arbennig, Pwyllgor Craffu Partneriaethau - Dydd Iau, 19eg Hydref, 2023 10.00 am

Lleoliad: Cyfarfod Hybrid ar Microsoft Teams/Ystafell Cyfarfod Abraham Derby, Swyddfeydd Cyffredinol, Glynebwy

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cydymdeimlad

Cofnodion:

Mynegwyd cydymdeimlad gyda theulu Sally-Ann Evans, Cyfreithiwr, a fu farw’n sydyn.

 

Dangosodd aelodau a swyddogion eu parch gyda munud o dawelwch.

 

2.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais am hynny

 

Cofnodion:

Nodwyd na chafwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

3.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd Dean Woods.

 

4.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.

 

Cofnodion:

Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.

 

5.

Amser Cyfarfodydd y Dyfodol

Ystyried amser cyfarfodydd y dyfodol..

 

Cofnodion:

Ystyriodd aelodau amser cyfarfodydd y dyfodol o’r Pwyllgor Craffu Partneriaethau.

 

CYTUNODD y Pwyllgor yn unfrydol y byddai holl gyfarfodydd y dyfodol yn dechrau am 10.00 am.

 

6.

Pwyllgor Craffu Partneriaethau pdf icon PDF 70 KB

Derbyn penderfyniadau’r Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar 28 Mawrth 2023.

 

(Dylid nodi y cyflwynir y penderfyniadau ar gyfer pwyntiau cywirdeb yn unig).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd penderfyniadau’r cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar 28 Mawrth 2023.

 

CYTUNODD y Cyngor yn unfrydol i dderbyn y penderfyniadau fel cofnod gywir o’r trafodion.

 

7.

Blaenraglen Gwaith Arfaethedig y Pwyllgor Craffu 2023-24 pdf icon PDF 88 KB

Derbyn y flaenraglen gwaith.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Swyddog Craffu a Democrataidd i gael ei ystyried.

 

CYTUNWYD:

 

-        Trefnu sesiwn wybodaeth i aelodau ar Ymddiriedolaeth Awen i’w chynnal yn gynnar yn y flwyddyn newydd.

 

-        Archifdy Gwent ac Amnlosgfa Gwent – gwybodaeth strategol a pherthnasol yn cynnwys cynlluniau busnes blynyddol a gwybodaeth ariannol a fyddai’n rhoi data llinell sylfaen ar gyfer Aelodau i gael ei hanfon cyn cyflwyno’r adroddiadau i’r Pwyllgor ym mis Mai 2024.

 

CYTUNWYD YMHELLACH, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a derbyn Blaenraglen Gwaith 2023/2024 y Pwyllgor Craffu Partneriaethau.

 

8.

Adroddiad Budd Cyhoeddus – Canfyddiadau Adolygiad Sicrwydd pdf icon PDF 148 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, Llywodraethiant a Phartneriaethau.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, Llywodraethiant a Phartneriaethau.

 

Yn dilyn trafodaeth fer pan hysbyswyd y Pwyllgor y bu Aelodau o’r Cyngor i Archifdy Gwent a hefyd Amlosgfa Gwent, CYTUNWYD bod y Pwyllgor yn cael manylion y Swyddogion Cyswllt ar gyfer y ddau sefydliad unwaith y cawsant eu cadarnhau.

 

CYTUNWYD YMHELLACH i argymell, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef nodi canfyddiadau’r Adolygiad Sicrwydd a’r argymhellion fel y’u hamlinellir isod:

 

-                  Dynodi Swyddog Cyswllt o fewn y Cyngor i sefydlu cyfarfodydd cydlynu rheolaidd gydag Archifdy Gwent ac Amlosgfa Gwent erbyn diwedd mis Mawrth 2024.

 

-                  Trefnu Sesiwn Wybodaeth i Aelodau ar y gwaith a’r gwasanaethau a ddarperir gan Archifdy Gwent ac Amlosgfa Gwent erbyn diwedd mis Mawrth 2024.

 

-                  Cynnwys pob dogfen strategol berthnasol, cynlluniau busnes blynyddol a chyfrifon Archifdy Gwent ac Amlosgfa Gwent yn y Flaenraglen Gwaith ar gyfer y Pwyllgor Craffu Partneriaethau ar gyfer 2024-25, a’r Cyngor lle’n berthnasol, o leiaf ddwywaith y flwyddyn.

 

-                  Datblygu’r Cylch Gorchwyl yn ‘becyn cymorth llywodraethiant’ i’w ddefnyddio gan swyddogion ar draws y Cyngor ar gyfer rhoi sicrwydd am gwmnïau presennol ac os sefydlir unrhyw rai newydd erbyn diwedd mis Mawrth 2024.