Agenda and minutes

Pwyllgor Craffu Partneriaethau - Dydd Mawrth, 28ain Mawrth, 2023 9.30 am

Lleoliad: O Bell yn Defnyddio Microsoft Teams

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais am hynny

 

Cofnodion:

Nodwyd na chafwyd unrhyw geisiadau am y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.

 

Cofnodion:

Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.

 

4.

Pwyllgor Craffu Partneriaethau pdf icon PDF 330 KB

Derbyn penderfyniadau’r Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar 7 Chwefror 2023.

 

(Dylid nodi y cyflwynir ypenderfyniadau er pwyntiau cywirdeb yn unig).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd penderfyniadau’r Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar 7 Chwefror 2023.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i gadarnhau’r penderfyniadau.

 

 

5.

Dalen Weithredu pdf icon PDF 93 KB

Derbyn ddalen weithredu.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i’r Ddalen Weithredu.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i nodi’r ddalen weithredu.

 

6.

Cynllun Busnes EAS 2023-2025 (Fersiwn Ymgynghori – Hygyrch) pdf icon PDF 543 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad ac ystyriodd Aelodau y cynllun a cynnig sylwadau pellach i gael eu hystyried gan EAS, dylid rhoi adborth ysgrifenedig ar y drafft Gynllun Busnes i Reolwr Gyfarwyddwr EAS yn dilyn y cyfarfod craffu. Rhoddir ystyriaeth i’r adborth hwn yn fersiwn terfynol y Cynllun Busnes. (Opsiwn 2)

 

7.

Fersiwn Derfynol Cynllun Llesiant Gwent 2023/2028 pdf icon PDF 434 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Demorataidd, Llywodraethiant a Phartneriaethau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad yr Arweinydd Proffesiynol dros Bartneriaethau Strategol a’r Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, Llywodraethiant a Phartneriaethau.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Cynllun Llesiant Gwent 2023-28 fel y’i cyflwynwyd (Opsiwn 1).