Agenda and minutes

Pwyllgor Craffu Corfforaethol a Pherfformiad - Dydd Llun, 21ain Tachwedd, 2022 1.30 pm

Lleoliad: Ar MS Teams

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na chafwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Cafwyd yr ymddiheuriadau dilynol am absenoldeb:-

 

Prif Weithredwr Interim

Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol

Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol

Rheolwr Gwasanaeth – Perfformiad a Democrataidd

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Derbyn datganiadau buddiant neu oddefebau.

 

Cofnodion:

Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.

 

4.

Pwyllgor Craffu Corfforaethol a Pherfformiad pdf icon PDF 196 KB

Ystyried penderfyniadau’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Hydref 2022.

(D.S. Cyflwynir y penderfyniadau er pwyntiau cywirdeb yn unig).

  

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i benderfynaidau’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Hydref 2022.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i gadarnhau’r cofnodion.

 

5.

Ymgynghoriad Drafft Adroddiad Blynyddol 2023 Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol pdf icon PDF 534 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Perfformiad a Democrataidd a’r Pennaeth Datblygu Sefydliadol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Perfformiad a Democrataidd.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad a chefnogi’r penderfyniadau fel y nodir yn nrafft adroddiad Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol yn Atodiad 1 ar gyfer 2023/2024 (Opsiwn 1).

 

6.

Cyfarfod Arbennig o’r Cabinet pdf icon PDF 414 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad a chefnogwyd cydymffurfiaeth Iechyd a Diogelwch drwy argymell cymeradwyo gweithredu’r Polisi Gyrru yn y Gwaith. (Opsiwn 1)