Lleoliad: Ar MS Teams
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.
Cofnodion: Nodwyd na chafwyd unrhyw geisiadau am y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau.
Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. |
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.
Cofnodion: Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.
|
|
Pwyllgor Craffu Corfforaethol a Pherfformiad PDF 196 KB Ystyried penderfyniadau’r cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Corfforaethol a Pherfformiad a gynhaliwyd ar 19 Hydref 2022.
(DS Cyflwynir y rhain ar gyfer cywirdeb yn unig)
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i benderfyniadau’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Hydref 2022.
CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn y penderfyniadau fel cofnod gywir o’r trafodion.
|
|
Pwyllgor Craffu Corfforaethol a Pherfformiad PDF 111 KB Ystyried penderfyniadau’r cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu a Corfforaethol a Pherfformiad a gynhaliwyd ar 21 Tachwedd 2022.
(DS Cyflwynir y rhain ar gyfer cywirdeb yn unig)
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i benderfyniadau’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Tachwedd 2022.
CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn y penderfyniadau fel cofnod gywir o’r trafodion.
|
|
Derbyn y Ddalen Weithredu. Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i’r Ddalen Weithredu.
CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.
|
|
Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad a bod Aelodau wedi rhoi’r her briodol i’r deilliannau ariannol yn yr adroddiad a nodi’r rhagolwg ar gyfer defnyddio cronfeydd wrth gefn (Opsiwn 1).
|
|
Monitro’r Gyllideb Cyfalaf. Rhagolwg ar gyfer Blwyddyn Ariannol (fel ar 30 Medi 2022) PDF 515 KB Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad ac y rhoddwyd yr her briodol i’r deiliannau ariannol yn yr adroddiad. Mae’r Pwyllgor Craffu wedi parhau i gefnogi gweithdrefnau rheolaeth ariannol priodol a gytunwyd gan y Cyngor a nodwyd y gweithdrefnau ar gyfer rheoli a monitro’r gyllideb sydd ar waith o fewn y Tîm Cyfalaf, er mwyn diogelu cyllid yr Awdurdod (Opsiwn 1).
|
|
Strategaeth Gweithlu 2021-2026 PDF 512 KB Ystyried adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydiadol.
CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad a nodwyd y cynnydd ar gynllun cyflenwi 2021/22 a chymeradwywyd cynllun cyflenwi 2022/23 (Opsiwn 1).
|
|
Adolygiad o’r Adroddiad Cyllid a Pherfformiad PDF 460 KB Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth perfformiad a Democrataidd.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Perfformiad a Democrataidd.
Cynigiodd Aelod bod adroddiadau Cyllid a Pherfformiad yn cael eu cyflwyno ar sail chwarterol am gyfnod prawf. Cafodd y cynnig hwn ei eilio a’i GYTUNO gan y Pwyllgor.
CYTUNODD y Pwyllgor, yn amodol ar yr uchod, bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn a rhoddodd awgrymiadau i gynnwys yr Adroddiad Cyllid a Pherfformiad er mwyn ei wneud yn fwy effeithiol ac effeithlon fel dull rheoli, gan nodi cynnwys gwybodaeth fel a ddynodir yn 2.7 i 2.10, i’w gymeradwyo gan y Cabinet (Opsiwn 1).
|
|
Strategaeth Hyrwyddo’r Gymraeg 2022/27 PDF 428 KB Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Polisi a Phartneriaethau.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad yr Arweinydd Proffesiynol dros Ymgysylltu, Cydraddoldeb a’r Gymraeg.
CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad ac argymell i’r Cabinet fod Strategaeth Hyrwyddo’r Gymraeg 2022-27 yn cael ei chymeradwyo cyn ei chyhoeddi (Opsiwn 1).
|
|
Blaenraglen Gwaith: 2 Chwefror 2023 PDF 395 KB Derbyn y Flaenraglen Gwaith.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Swyddog Craffu a Democrataidd.
CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad a chytunodd y Pwyllgor Craffu ar y Flaenraglen Gwaith ar gyfer cyfarfod 2 Chwefror 2023, fel y’i cyflwynwyd (Opsiwn 2).
|