Lleoliad: virtually via MS Teams (if you would like to view this meeting please contact michelle.hicks@blaenau-gwent.gov.uk)
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.
Cofnodion: Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisia dau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau.
Cofnodion: Ni adroddwyd unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Derbyn ymddiheuriadau.
Cofnodion: Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.
|
|
Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol PDF 224 KB Derbyn cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol a gynhaliwyd ar 23 Chwefror 2022.
(Dylid nodi y cyflwynir y cofnodion er pwyntiau cywirdeb yn unig).
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i gofnodion y Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol a gynhaliwyd ar 23 Chwefror 2022.
CYTUNODD y Pwyllgor yn unfrydol i gadarnhau’r cofnodion.
|
|
Dalen Weithredu – Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol – 23 Chwefror 2022 PDF 194 KB Nodi’r Ddalen Weithredu.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i Ddalen Weithredu y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol a gynhaliwyd ar 23 Chwefror 2022.
CYTUNODD y Pwyllgor yn unfrydol i nodi’r ddalenn weithredu.
|
|
Dalen Weithredu – Cydbwyllgor Craffu y Gyllideb – 7 Mawrth 2022 PDF 186 KB Nodi’r Ddalen Weithredu.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i Ddalen Weithredu y Cydbwyllgor Craffu y Gyllideb a gynhaliwyd ar 7 Mawrth 2022.
CYTUNODD y Pwyllgor yn unfrydol i nodi’r ddalen weithredu.
|
|
Canlyniadau Arolwg Amser Cyfarfodydd PDF 504 KB Derbyn yr adroddiad.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Swyddog Craffu a Democrataidd.
CYTUNODD y Pwyllgor yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef cynnal cyfarfodydd o’r Pwyllgor Craffu Corfforaethol a Pherfformiad ar ddyddiau Iau am 9.30am ar gyfer trafod rheoli’r agenda, gyda’r cyfarfod ffurfiol i gychwyn am 10.00am.
|
|
Blaenraglen Gwaith 2022-23 Arfaethedig y Pwyllgor Craffu PDF 389 KB Derbyn yr adroddiad.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Swyddog Craffu a Democrataidd.
CYTUNODD y Pwyllgor yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef cytuno ar y Flaenraglen Gwaith ar gyfer y Pwyllgor Craffu Corfforaethol a Pherfformiad.
|
|
Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Nodwyd y cafodd Atodiad 4 ei adael allan o’r agenda ond iddo gael ei gylchredeg cyn dechrau’r Pwyllgor.
CYTUNODD y Pwyllgor yn unfrydol i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef:-
a) y rhoddwyd yr her priodol i’r deilliannau ariannol yn yr adroddiad;
b) argymell cymeradwyo trosglwyddiadau cyllideb fel y manylir ym mharagraff 5.1.14 ac Atodiad 4 dros £250,000 yn unol ?’r cyfansoddiad; a
c) nodi gweithredu cronfeydd wrth gefn.
|
|
Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
CYTUNODD y Pwyllgor yn unfrydol i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef:
a) y rhoddwyd yr her briodol i’r deilliannau ariannol yn yr adroddiad;
b) bod gweithdrefnau rheoli ariannol a gytunwyd gan y Cyngor yn parhau i gael eu cefnogi, ac
c) nodi’r gweithdrefnau ar reoli a monitro’r gyllideb a weithredir gan y Tîm Cyfalaf a Chorfforaetholl i ddiogelu cyllid yr Awdurdod.
|