Lleoliad: O Bell yn Defnyddio Microsoft Teams
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.
Cofnodion: Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau.
Cofnodion: Derbyniwyd yr ymddiheuriadau dilynol am absenoldeb:-
Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg Pennaeth Gwella Ysgolion Rheolwr Gwella Strategol Addysg Cynhwysiant Rheolwr Gwasanaeth
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.
Cofnodion: Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.
|
|
Cynllun Dewisol Costau Byw PDF 584 KB Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Cynigiodd Aelod ddiwygiad i’r argymhelliad i roi £30,000 i Fanc Bwyd Blaenau Gwent fel y prif ddrebynnydd a sefydlu cronfa ddewisol o £70,000 i alluogi grwpiau.sefydliadau bwyd eraill i wneud cais am gyllid gan y Cyngor i gynorthwyo wrth gyflenwi gwaith o fewn eu cymunedau perthnasol.
Cafodd y ccynnig ei eilio a’i gytuno.
CYTUNODD y Pwyllgor i argymell, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a chynigiodd y Cynllun Dewisol Costau Byw ac awgrymu diwygiadau i’r Cyngor cyn mabwysiadu’r Cynllun (Opsiwn 2).
|
|
Perfformiad Absenoldeb Salwch 2021/22 PDF 762 KB Ystyried adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.
CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a bod y Pwyllgor Craffu yn cymeradwyo’r adroddiad a’r camau gweithredu cyfredol i gefnogi gwelliant mewn presenoldeb.
|