Lleoliad: Cyfarfod hybrid i’w gynnal yn rhithiol ar MS Teams yn Ystafell Syr William Firth, Swyddfeydd Cyffredinol, Glynebwy
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais am hynny.
Cofnodion: Nodwyd na chafwyd unrhyw geisiadau am y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau.
Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Prif Weithredwr Interim.
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.
Cofnodion: Ni wnaed unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.
|
|
Pwyllgor Craffu Corfforaethol a Pherfformiad PDF 60 KB Ystyried penderfyniadau’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Hydref 2023. (D.S. Cyflwynir y penderfyniadau er pwyntiau cywirdeb yn unig).
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i benderfyniadau’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Hydref 2023.
CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn y cofnodion fel cofnod gywir o’r trafodion.
|
|
Derbyn y ddalen weithredu.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i’r Ddalen Weithredu.
CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth ynddo.
|
|
Adroddiad Diweddariad Chwarterol Rheoli Trysorlys – Mehefin 2023 PDF 127 KB Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad a chraffu’r gweithgaredd rheoli trysorlys a wnaed yn ystod 3 mis cyntaf 2023/24 ac nid yw’n ystyried unrhyw ddiwygiadau i strategaethau a dangosyddion perfformiad Trysorlys a gytunwyd yn flaenorol (Opsiwn 1).
|
|
Blaenraglen Gwaith : 18 Ionawr 2024 PDF 105 KB Derbyn y flaenraglen gwaith.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Swyddog Craffu a Democrataidd.
CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad a chytunodd y Pwyllgor ar y Flaenraglen ar gyfer cyfarfod 18 Ionawr 2024, fel y’i cyflwynwyd (Opsiwn 1).
|