Lleoliad: Cyfarfod hybrid i’w gynnal yn rhithiol ar MS Teams yn Ystafell Syr William Firth, Swyddfeydd Cyffredinol, Glynebwy
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais am hynny.
Cofnodion: Nodwyd na chafwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau.
Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Prif Swyddog Cwsmeriaid a Masnachol.
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.
Cofnodion: Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.
|
|
Pwyllgor Craffu Corfforaethol a Pherfformiad PDF 74 KB Ystyried penderfyniadau’r Pwyllgor Craffu Corfforaethol a Pherfformiad a gynhaliwyd ar 14 Medi 2023.
(D.S. Cyflwynir y penderfyniadau ar gyfer pwyntiau cywirdeb yn unig).
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i benderfyniadau y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Medi 2023.
CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn y penderfyniadau fel cofnod gywir o’r trafodion.
|
|
Derbyn y ddalen weithredu.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i’r Ddalen Weithredu.
CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth ynddo.
|
|
Hunanasesiad 2022/23 Cyngor Blaenau Gwent PDF 169 KB Ystyried adroddiad y Rheolwr Gyfarwyddwr Interim.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth ia droddiad y Prif Weithredwr Interim.
CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad ac argymhellodd fod y Cyngor yn cymeradwyo Hunanasesiad 2022/23 y Cyngor i’w gyhoeddi ar wefan y Cyngor a’i rannu gyda phartneriaid allweddol fel yr amlinellir ym mharagraff 2.42 y canllawiau statudol (Opsiwn 1).
|
|
Perfformiad Absenoldeb Salwch 2022/23 PDF 606 KB Ystyried adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.
CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyodd y Pwyllgor yr adroddiad a’r camau gwithredu parhaus i gefnogi gwelliant mewn presenoldeb (Opsiwn 2).
|
|
Blaenraglen Gwaith: 6 Rhagfyr 2023 PDF 104 KB Derbyn y flaenraglen gwaith.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Swyddog Craffu a Democrataidd.
CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad a chytunodd y Pwyllgor ar y Flaenraglen Gwaith ar gyfer cyfarfod 6 Rhagfyr 2023, fel y’i cyflwynwyd (Opsiwn1).
|