Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais am hynny.
Cofnodion: Nodwyd na chafwyd unrhyw geisiadau am y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau.
Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd C. Bainton.
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.
Cofnodion: Ni wnaed unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.
|
|
Pwyllgor Craffu Corfforaethol a Pherfformiad PDF 62 KB Ystyried penderfyniadau’r cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Corfforaethol a Pherfformiad a gynhaliwyd ar 22 Mehefin 2023.
(D.S. Cyflwynir y penderfyniadau er pwyntiau cywirdeb yn unig).
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i benderfyniadau’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Mehefin 2023.
CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn y penderfyniadau fel cyfnod gywir o drafodion.
|
|
Pwyllgor Craffu Corfforaethol a Pherfformiad PDF 60 KB Ystyried penderfyniadau’r cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Craffu Corfforaethol a Pherfformiad a gynhaliwyd ar 5 Gorffennaf 2023.
(D.S. Cyflwynir y penderfyniadau er pwyntiau cywirdeb yn unig)
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i benderfyniadau’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Gorffennaf 2023.
CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn y penderfyniadau fel cofnod gywir o drafodion.
|
|
Derbyn y Ddalen Weithredu.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i’r Ddalen Weithredu.
CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.
|
|
Strategaeth Gwasanaethau Cwsmeriaid ar gyfer y Cyngor PDF 155 KB Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid.
Nododd y Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid ddiwygiad i’r Safonau Gwasanaethau Cwsmeriaid a dywedodd fod tudalen 69 yn nodi “Byddwn yn gwrtais a chroesawgar. Gall cwsmeriaid ddisgwyl amgylchedd croesawgar pan maent yn ymweld ag adeiladau’r Cyngor”. Dywedodd y Prif Swyddog nad oedd y Polisi yn ymwneud ag adeiladau ond am sut mae’r Cyngor yn rhyngweithio o fewn y cymunedau ac y byddai’r geiriad yn cael ei ddiwygio i gyfleu hynny.
Nododd y Pwyllgor a chytuno ar y diwygiad.
CYTUNODD y Cyngor, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a rhoddodd argymhellion ar gyfer newidiadau yn y Strategaeth Gwasanaethau Cwsmeriaid a’r Safonau Cwsmeriaid cysylltiedig cyn ei gyflwyno i’r Cabinet ei gymeradwyo (Opsiwn 2).
|
|
Strategaeth Trawsnewid Digidol ar gyfer y Cyngor PDF 154 KB Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid.
CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyodd y Strategaeth Digidol a Thrawsnewid cyn iddi gael ei chyflwyno i’r Cabinet i gael ei chymeradwyo (Opsiwn 1).
|
|
Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, Llywodraethiant a Phartneriaethau.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, Llywodraethiant a Phartneriaethau.
CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad a chefnogodd yr argymhelliad ar gyfer yr Adroddiad Cynnydd Chwarterol a’r Polisi Cymraeg yn y Gweithle, fel sy’n dilyn:-
· Adroddiad Cynnydd Chwarterol CS092 (Atodiad 1), a chefnogi’r ymagwedd i gael ei gyflwyno i’r Cabinet (Opsiwn 1a), a
· polisi Cymraeg yn y Gweithle (Atodiad 2) ac argymell ei gymeradwyo gan y Cabinet ar gyfer ei gyhoeddi (Opsiwn 2a).
|
|
Adroddiad Adolygiad Blynyddol Rheoli Trysorlys 1 Ebrill 2022 i 31 Mawrth 2023 PDF 167 KB Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad a chraffodd Aelodau ar y gweithgaredd rheoli trysorlys a wnaed yn ystod blwyddyn ariannol 2022/23 a rhoddodd sylwadau cyn ei gyflwyno i’r Cyngor llawn (Opsiwn 1).
|
|
Adroddiad Blynyddol Iechyd a Diogelwch – 1 Ebrilll 2022 i 31 Mawrth 2023 PDF 138 KB Ystyried adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.
CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad a chefnogodd yr adroddiad manwl a’r camau gweithredu a argymhellir i liniaru meysydd o gonsyrn a chytuno i’r adroddiad symud ymlaen i’r Cabinet (Opsiwn 1).
|
|
Blaenraglen Gwaith: 12 Hydref 2023 PDF 104 KB Derbyn y Flaenraglen Gwaith. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Swyddog Craffu a Democrataidd.
Cynigiodd Aelod y dylid cyflwyno adroddiad am ymestyn prydau ysgol am ddim i bawb ac effaith hynny ar gyllideb ysgolion. Cytunwyd ac eiliwyd y cynnig.
CYTUNODD y Pwyllgor, yn amodol i’r uchod, i dderbyn yr adroddiad a gwnaed diwygiadau, awgrymu gwahoddedigion ychwanegol a gofyn am gynnwys gwybodaeth ychwanegol yn y Flaenraglen Gwaith yng nghyswllt pynciau i gael eu trafod (Opsiwn 1).
|