Lleoliad: Cyfarfod hybrid i’w gynnal yn rhithiol ar MS Teams yn Ystafell Syr William Firth, Swyddfeydd Cyffredinol, Glynebwy
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais am hynny.
Cofnodion: Nodwyd na chafwyd unrhyw geisiadau am y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
Media |
|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau.
Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd C Bainton.
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.
Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.
|
|
Monitro’r Gyllideb Refeniw – All-dro Darpariaethol PDF 562 KB Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad ac: (a) Ystyriodd yr Aelodau a rhoddwyd yr her briodol i’r deilliannau ariannol yn yr adroddiad; a (b) Nodi defnydd net cronfeydd penodol wrth gefn (Opsiwn 1).
|
|
Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad ac (a) Ystyriodd Aelodau yr wybodaeth a gynhwysir yn yr adroddiad a rhoddwyd yr her briodol i’r deilliannau ariannol yn yr adroddiad; (b) Parhau i gefnogi gweithdrefnau rheoli priodol a gytunwyd gan y Cyngor; a (c) Nodi’r gweithdrefnau rheoli a monitro cyllideb sydd yn eu lle o fewn y Tîm Cyfalaf i ddiogelu cyllid yr Awdurdod (Opsiwn 1).
|
|
Diwallu Gofynion Penodol Deddf Cydraddoldeb 2010: Datblygu Polisi Cydraddoldeb Strategol PDF 591 KB Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, Llywodraethiant a Phartneriaethau.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Llywodraethiant a Phartneriaethau.
CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad a chefnogi’r dull gweithredu a gynigiwyd ar gyfer datblygu Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024/28 a’r Amcanion Cydraddoldeb i’w cymeradwyo gan y Cabinet (Opsiwn 1).
|