Lleoliad: Ar MS Teams
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.
Cofnodion: Nodwyd na chafwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau Cofnodion: Ni adroddwyd unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.
Cofnodion: Ni wnaed unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.
|
|
Pwyllgor Craffu Corfforaethol a Pherfformiad PDF 225 KB Ystyried penderfyniadau’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Mawrth 2023.
(D.S. Cyflwynir y penderfyniadau ar gyfer pwyntiau cywirdeb yn unig).
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i benderfyniadau’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Mawrth 2023.
CYTUNODD y Pwyllgor i gadarnhau’r cofnodion.
|
|
Adroddiad Cyllid a Pherfformiad hyd at Mawrth 2023 PDF 416 KB Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Perfformiad a Democrataidd..
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Perfformiad a Democrataidd.
Cynigiwyd creu Crynodeb Gweithredol yn defnyddio ffeithluniau’r adroddiad fel dogfen gyhoeddus. Dylai’r Crynodeb roi manylion y ddogfen lawn pe dymunai darllenwyr gael y fersiwn lawn.
CYTUNWYD ac eiliwyd y cynnig ac
Wedyn CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad a rhoddodd awgrymiadau am gynnwys yr Adroddiad Cyllid a Pherfformiad er mwyn ei wneud yn fwy effeithiol ac effeithlon fel dull rheoli i gael ei ystyried gan y Cabinet (Opsiwn 1).
|