Lleoliad: Ar MS Teams
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais am hynny
Cofnodion: Nodwyd na chafwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau.
Cofnodion: Derbyniwyd yr ymddiheuriadau dilynol am absenoldeb:- Cynghorydd E. Jones; Cynghorydd R. Leadbeater; a Prif Swyddog Cwsmeriaid a Masnachol
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.
Cofnodion: Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.
|
|
Pwyllgor Craffu Corfforaethol a Pherfformiad PDF 100 KB Ystyried penderfyniadau’r Pwyllgor Craffu Corfforaethol a Pherfformiad a gynhaliwyd ar 2 Chwefror 2023.
(D.S. Cyflwynir y penderfyniadau er pwyntiau cywirdeb yn unig). .
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i benderfyniadau’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Chwefror 2023.
CYTUNODD y Pwyllgor i gadarnhau’r penderfyniadau.
|
|
Pwyllgor Craffu Corfforaethol a Pherfformiad PDF 353 KB Ystyried penderfyniadau’r Pwyllgor Craffu Corfforaethol a Pherfformiad a gynhaliwyd ar 21 Chwefror 2023.
(D.S. Cyflwynir y penderfynaidau er pwyntiau cywirdeb yn unig).
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i benderfyniadau’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Chwefror 2023.
CYTUNODD y Pwyllgor i gadarnhau’r penderfyniadau.
|
|
Cyflawni Gofynion Penodol Deddf Cydraddoldeb 2010: Adroddiad Blynyddol ac Asesu Effaith PDF 585 KB Ystyried adroddiad y Pennaeth Llywodraethiant a Phartneriaethau.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Llywodraethiant a Phartneriaethau.
CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad ac
a) Adroddiadau Blynyddol – ystyriodd yr Adroddiad Blynyddol a gyflwynir ar gyfer 22/23 a nodi’r cynnydd a wnaed ar Amcanion Cydraddoldeb y Cyngor; ac
b) Asesu Effaith – nodwyd y broses IIA newydd ac y trefnir sesiynau gwybodaeth i aelodau ar gyfer pob aelod etholedig i roi sylw i’r ddyletswydd benodol ar gyfer asesu effaith i gynnwys y broses, enghreifftiau o’i defnydd a’i rôl wrth wneud penderfyniadau.
|
|
Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad (Opsiwn 1) a: · rhoddodd her briodol i’r deilliannau ariannol yn yr adroddiad · nodi y defnydd a ragwelir ar gyfer cronfeydd cadw.
|
|
Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad (Opsiwn 1) a
· rhoddodd yr her priodol i’r deilliannau ariannol yn yr adroddiad; · parhau i gefnogi gweithdrefnau rheoli ariannol priodol a gytunwyd gan y Cyngor; · nodi’r gweithdrefnau ar gyfer rheoli’r gyllideb a monitro sydd yn eu lle o fewn y Tîm Cyfalaf i ddiogelu cyllid yr Awdurdod.
|
|
Adroddiad Cynnydd Contractau dros £500k PDF 480 KB Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol.
CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad ac argymhellodd eu cymeradwyo gan y Cabinet (Opsiwn 1).
|
|
Datganiad Strategaeth Rheoli Trysorlys 2023/24 PDF 511 KB To consider the report of the Chief Officer Resources. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad ac ystyriodd y Datganiad Strategaeth Trysorlys Blynyddol, y Strategaeth Buddsoddi Blynyddol a’r Datganiad Polisi MRP ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/2024. a Dangosyddydion Darbodus Rheoli Trysorlys a gynhwysir ynddynt (Atodiad A) a pheidio ystyried unrhyw ddiwygiadau, cyn eu cyflwyno i’r Cyngor i’w cymeradwyo’n ffurfiol (Opsiwn 2).
|
|
Adolygiad Strategaeth Cyfalaf PDF 413 KB To consider report of the Chief Officer Resources. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Swyddog Craffu a Democrataidd.
CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad ac ystyriodd y Strategaeth Cyfalaf ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24 (atodiad 1) a pheidio ystyried unrhyw ddiwygiadau cyn ei chyflwyno i’r Cyngor ar gyfer cymeradwyaeth ffurfiol (Opsiwn 1).
|
|
Blaenraglen Gwaith: 27 Ebrill 2023 PDF 396 KB Derbyn yr adroddiad.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Swyddog Craffu a Democrataidd.
CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad a chytunodd yr Aelodau ar y Flaenraglen Gwaith ar gyfer y cyfarfod ar 27 Ebrill 2023, fel y’i cyflwynwyd (Opsiwn 2).
|