Lleoliad: virtually via MS Teams (if you wish to view this meeting please contact michelle.hicks@blaenau-gwent.gov.uk)
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.
Cofnodion: Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau.
Cofnodion: Derbyniwyd yr ymddiheuriadau dilynol am absenoldeb:-
Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.
Cofnodion: Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.
|
|
Pwyllgor Craffu Corfforaethol a Pherfformiad PDF 207 KB Derbyn penderfyniadau’r Pwyllgor Craffu Corfforaethol a Pherfformiad a gynhaliwyd ar 20 Medi 2022.
(Dylid nodi y cyflwynir y penderfyniadau er pwyntiau cywirdeb yn unig).
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i benderfyniadau’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Medi 2022.
CYTUNODD y Pwyllgor i gadarnhau’r cofnodion.
|
|
Pwyllgor Craffu Corfforaethol a Pherfformiad PDF 112 KB Derbyn penderfyfniadau’r Pwyllgor Craffu Corfforaethol a Pherfformiad a gynhaliwyd ar 23 Medi 2022.
(Dylid nodi y cyflwynir y penderfyniadau er pwyntiau cywirdeb yn unig).
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i benderfyniadau’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Medi 2022.
CYTUNODD y Pwyllgor i gadarnhau’r cofnodion.
|
|
Derbyn y ddalen weithredu.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i’r Ddalen Weithredu a CHYTUNODD y Pwyllgor i nodi’r ddalen weithredu.
|
|
Adroddiad Adolygiad Blynyddol Rheoli Trysorlys 1 Ebrill 2021 i 31 Mawrth 2022. PDF 585 KB Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad a chraffodd yr Aelodau ar y gweithgaredd rheoli trysorlys yn ystod blwyddyn ariannol 2021/22 a rhoi sylwadau cyn ei gyflwyno i’r Cyngor llawn. (Opsiwn 1).
|
|
Hunan-asesiad 2021/22 Cyngor Blaenau Gwent PDF 504 KB Ystyried adroddiad y Prif Weithredwr Interim..
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Weithredwr Interim.
CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad ac argymhellodd gymeradwyaeth i’r Cyngor fod Hunanasesiad 2021/22 y Cyngor yn cael ei gyhoeddi ar wefan y Cyngor a’i rannu gyda phartneriaid allweddol fel yr amlinellir ym mharagraff 2.42 y canllawiau statudol. (Opsiwn 1).
|
|
Cynllun Corfforaethol 2022/27 y Cyngor PDF 761 KB Ystyried adroddiad y Prif Weithredwr Interim.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Weithredwr Interim.
Cynigiodd Aelod Opsiwn 2, ni chafodd y cynnig yr eilio.
Cynigiodd Aelod Opsiwn 1, eiliwyd y cynnig hwn a
CHYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad a chefnogi cynnwys y drafft Gynllun Corfforaethol, cyn ei gymeradwyo yn y Cyngor i’w gyhoeddi. (Opsiwn 1)
|