Agenda and minutes

Pwyllgor Craffu Pobl - Dydd Mawrth, 18fed Hydref, 2022 10.00 am

Lleoliad: O Bell yn Defnyddio Microsoft Teams

Cyswllt: E-bost: jones.deb@blaenau-gwent.gov.uk 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd Jen Morgan, Rhianna Lewis (Aelod Cyfetholedig), Pennaeth Strategol Gwella Ysgolion a Chynhwysiant a’r Rheolwr Strategol Gwella Addysg.

 

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.

 

Cofnodion:

Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.

 

4.

Pwyllgor Craffu Pobl pdf icon PDF 333 KB

Derbyn penderfyniadau’r Pwyllgor Craffu Pobl a gynhaliwyd ar 30 Medi 2022.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd penderfyniadau’r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol a gynhaliwyd ar 6 Medi 2022.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i gadarnhau’r cofnodion.

 

5.

Dalen Weithredu pdf icon PDF 6 KB

Derbyn y ddalen weithredu.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd y Ddalen Weithredu yn deillio o’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Medi.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i nodi’r ddalen weithredu.

 

6.

Adroddiad Perfformiad Diogelu Corfforaethol, yn cynnwys Gwybodaeth ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol 1 Ebrill i 30 Mehefin 2022 a Thymor Haf Addysg 2022 pdf icon PDF 795 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i’r adroddiad ar y cyd gan Gyfarwyddwr Corfforaethol Interim Gwasanaethau Cymdeithasol a Chyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad ac ystyried yr wybodaeth a roddwyd a gwnaeth argymhellion ar ble medrid gwneud gwelliannau i’r prosesau monitro cyfredol ar gyfer cymeradwyaeth gan y Pwyllgor Gweithredol. (Opsiwn 2)

 

7.

Gwella Perfformiad Ysgolion pdf icon PDF 505 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad fel y’i darparwyd (Opsiwn 1).

 

8.

Ymrwymiadau Ariannol y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol pdf icon PDF 652 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad ac argymell nad yw’r cyngor yn derbyn ymrwymiadau ariannol a goblygiadau’r Gronfa Integreiddio Ranbarthol newydd a’i model cyllid tapr (Opsiwn 2).

 

9.

Blaenraglen Gwaith 29 Tachwedd 2022 pdf icon PDF 398 KB

Derbyn y flaenraglen gwaith..

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Swyddog Craffu a Democrataidd newydd.

 

CYTUNODD y Pwyllgor ar y Flaenraglen Gwaith ar gyfer cyfarfod 29 Tachwedd 2022, fel y’i cyflwynwyd (Opsiwn 2).