Agenda and minutes

Pwyllgor Craffu Pobl - Dydd Llun, 13eg Tachwedd, 2023 9.30 am

Lleoliad: Cyfarfod hybrid i’w gynnal yn rhithiol ar MS Teams yn Ystafell Syr William Firth, Swyddfeydd Cyffredinol, Glynebwy

Cyswllt: E-bost: committee.services@blaenau-gwent.gov.uk 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais am hynny.

 

Cofnodion:

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.

 

Cofnodion:

4.

Pwyllgor Craffu Pobl pdf icon PDF 78 KB

Derbyn penderfyniadau’r Pwyllgor Craffu Pobl a gynhaliwyd ar 19 Medi 2023.

 

(Dylid nodi y cyflwynir y penderfyniadau er pwyntiau cywirdeb yn unig).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd penderfyniadau’r Pwyllgor Craffu Pobl a gynhaliwyd ar 19 Medi 2023.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn y penderfyniadau fel cofnod gywir o’r trafodion.

 

5.

Dalen Weithredu pdf icon PDF 52 KB

Derbyn dalen weithredu.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd y Ddalen Weithredu yn deillio o’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Medi 2023.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i nodi’r Ddalen Weithredu.

 

6.

Penderfyniadau’r Cabinet – Strategaeth / Polisïau / Canllawiau Cynhwysiant ac ADY (Adolygu a Diwygiadau)

Aelod Cabinet i ymateb i unrhyw gwestiynau a ofynnir gan y Pwyllgor yn dilyn penderfyniad y Cabinet.

 

Cofnodion:

Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim fod ymrwymiad pendant i weithio gyda phenaethiaid ysgolion ac uwch arweinwyr ar unrhyw bolisïau newydd pan fod ASOS yn caniatáu hynny.

 

Ar wahoddiad y Cadeirydd, dywedodd yr Aelod Cabinet Pobl ac Addysg ei bod yn cydnabod pwysigrwydd Craffu a diolchodd i Aelodau am eu harchwiliad o’r adroddiad pan y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet ei bod eisiau rhoi sylwadau ar gynghori yn erbyn Opsiwn 2 pan y’i cyflwynwyd, a phwysleisiodd nad oedd mewn unrhyw ffordd yn ceisio tanseilio gwaith y Pwyllgor Craffu, ond teimlai fod nifer o faterion yn ymwneud â’r ymgynghoriad na chafodd eu cyfathrebu i’r Pwyllgor Craffu ac wedi arwain at gamddealltwriaeth a fyddai’n effeithiol ar allu’r Gyfarwyddiaeth Addysg i gyflawni ei dyletswyddau statudol.

 

Yn gyntaf, roedd gweithdrefnau ASOS wedi cael ac yn dal i gael effaith niweidiol ar ysgolion cynradd a phenaethiaid ysgol yn gwrthod cymryd rhan yn yr ymgynghoriad a gynigiwyd oherwydd ASOS, ac amlinellodd yr Aelod Cabinet lefel yr ymgysylltu a gynigiwyd.

 

Yn ail mae angen i ni wneud newidiadau i’n Strategaeth Cynhwysiant i sicrhau ei fod yn unol â newidiadau polisi a ddaw gan Lywodraeth Cymru. Fel rhan o’r broses ymgynghori, sefydlwyd sianel Teams gyda’r polisïau wedi eu lanlwytho a gofynnwyd i benaethiaid ysgol anfon eu sylwadau drwy e-bost yn hytrach na chyfarfod, er mwyn rhoi cyfle i ymgysylltu heb fynd yn erbyn ASOS. Fodd bynnag, ni chafwyd unrhyw ymatebion.

 

Yn olaf, bu ymgynghoriad ffurfiol llawn a gynhaliwyd rhwng Ebrill a Mheipen ac fel canlyniad cyhoeddwyd Hysbysiad Statudol a wnaeth gau ar 26 Gorffennaf 2023, heb unrhyw wrthwynebiadau i’r cynigion.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet y gwnaed ymdrechion pellach i ymgysylltu gyda phenaethiaid ysgol er bod ASOS yn parhau, ond dywedodd ei bod yn hanfodol nad oedd gweithredu diwydiannol yn llesteirio ar gyfrifoldeb statudol yr Awdurdod a’i gyfrifoldeb i blant gydag anghenion ychwanegol.

 

Daeth yr Aelod Cabinet i ben drwy ddweud y bu cyfres o ddigwyddiadau y gallai fod wedi eu cyfathrebu’n well i’r Pwyllgor Craffu, a theimlai y byddai hynny wedi arwain at i’r adroddiad gael derbyniad mwy cadarnhaol. Byddai’n ymdrechu i sicrhau y caiff y llinellau hynny o gyfathrebu gyda’r Pwyllgor Craffu eu cyflawni’n well a’u bod yn fwy cadarn wrth symud ymlaen a gobeithiai y byddai’r esboniad a roddwyd yn rhoi gwell dealltwriaeth i Aelodau o pam ei bod wedi gofyn i’r Cabinet gefnogi Opsiwn 1, yn erbyn argymhelliad y Pwyllgor Craffu.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Aelod Cabinet am fynychu a rhoi esboniad. Diolchodd iddi hefyd am y cyfle i fynychu’r Cabinet ar ran y Pwyllgor, a dywedodd ei fod yn falch y byddai cyfathrebu yn well wrth symud ymlaen.

 

7.

Adroddiad Cynnydd: Cartrefi Preswyl Plant pdf icon PDF 165 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Plant.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Gwasanaethau Plant.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad fel cynrychiolaeth gywir o’r cynnydd hyd yma yng nghyswllt datblygu cartrefi preswyl plant ym Mlaenau Gwent (Opsiwn 1).

 

8.

Diweddariad ar Gynnydd ar Argymhellion Estyn pdf icon PDF 148 KB

Ystyried adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Addysg.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Addysg.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad fel y’i darparwyd. (Opsiwn 2).

 

9.

Rhaglen Gwella Ysgolion pdf icon PDF 156 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Addysg.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Addysg.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad fel y’i darparwyd (Opsiwn 2).

 

10.

Blaenraglen Gwaith: 19 Rhagfyr 2023 pdf icon PDF 104 KB

Derbyn y Flaenraglen Gwaith.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Swyddog Craffu a Democrataidd

 

·       Strategaeth TGCh i gael ei symud i gyfarfod Chwefror/Mawrth.

 

CYTUNODD y Pwyllgor, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn y flaenraglen gwaith ar gyfer 19 Rhagfyr 2023.