Lleoliad: Hybrid via Microsoft Teams or in the Sir William Firth Room, General Offices, Ebbw Vale
Cyswllt: E-bost: deb.jones@blaenau-gwent.gov.uk
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais am hynny.
Cofnodion: Nodwyd na chafwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau.
Cofnodion: Adroddwyd ymddiheuriadau am absenoldeb ar gyfer y Cynghorydd G. Humphreys, J. Wilkins (gwahoddwyd ar gyfer Eitem Rhif 7) a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Gwasanaethau Cymdeithasol.
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.
Cofnodion: Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.
|
|
Amser Cyfarfodydd y Dyfodol Ystyried amser cyfarfodydd y dyfodol.
Cofnodion: CYTUNODD y Pwyllgor i gynnal cyfarfodydd am 10.00 a.m.
|
|
Pwyllgor Craffu Pobl PDF 334 KB Derbyn penderfyniadau’r Pwyllgor Craffu Pobl a gynhaliwyd ar 28 Ebrill 2023.
(Dylid nodi fod y penderfyniadau er pwyntiau cywirdeb yn unig).
Cofnodion: Cyflwynwyd penderfyniadau’r Pwyllgor Craffu Pobl a gynhaliwyd ar 28 Ebrill 2023.
CYTUNODD y Pwyllgor i gadarnhau’r penderfyniadau.
|
|
Blaenraglen Gwaith Arfaethedig 2023-24 y Pwyllgor Craffu PDF 386 KB Derbyn yr adroddiad.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pwyllgor Craffu a Democrataidd.
CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn y Flaenraglen Gwaith ar gyfer y Pobl Craffu Pobl (Opsiwn 1).
|
|
Ystyried adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Gwasanaethau Cymdeithasol a Chyfarwyddwr Corfforaethol Interim Addysg.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad ar y cyd gan y Cyfarwyddwr Corfforethol Interim Gwasanaethau Cymdeithasol ac yn cynnwys Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Addysg.
CYTUNODD y Pwyllgor i argymell (Opsiwn 1), sef:
a) Derbyn y dull gweithredu a’r wybodaeth a fanylir yn yr adroddiad (Atodiad 1) fel y’i darparwyd; a b) Argymell fod y Cabinet yn cytuno i’r Polisi Diogelu mewn Addysg diwygiedig fel y’i dangosir yn Atodiad 3.
|