Lleoliad: O Bell yn Defnyddio Microsoft Teams
Cyswllt: E-bost: deb.jones@blaenau-gwent.gov.uk
Rhif | eitem | |
---|---|---|
Cyfieithu ar y Pryd
Cofnodion: Nodwyd na chafwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
||
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau
Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb ar gyfer y Cynghorydd K. Chaplin a Mr. Tim Baxter.
|
||
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.
Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd D. Wilkshire fuddiant yn eitem rhif 9 - Achos Busnes i brynu 2 adeilad i’w defnyddio fel cartrefi preswyl i blant.
|
||
Pwyllgor Craffu Pobl PDF 339 KB Derbyn penderfyniadau’r Pwyllgor Craffu Pobl a gynhaliwyd ar 17 Ionawr 2023.
(Dylid nodi y cyflwynir penderfyniadau er pwyntiau cywirdeb yn unig).
Cofnodion: Cyflwynwyd penderfyniadau’r Pwyllgor Craffu Pobl a gynhaliwyd ar 17 Ionawr 2023.
Dywedwyd na chafodd ymddiheuriadau’r Cynghorydd J. Holt eu cynnwys.
CYTUNODD y Pwyllgor, yn amodol ar yr uchod, i gadarnhau’r cofnodion.
|
||
Derbyn y ddalen weithredu.
Cofnodion: Cyflwynwyd y Ddalen Weithredu yn deillio o’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Ionawr 2023.
CYTUNODD y Pwyllgor i nodi’r ddalen weithredu.
|
||
Canlyniad Arolwg Estyn ar Wasanaethau Addysg Llywodraeth Leol Blaenau Gwent PDF 528 KB Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.
CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad fel y’i cyflwynwyd (Opsiwn 2).
|
||
Polisi Derbyn Blaenau Gwent ar gyfer Addysg Feithrin a Statudol 2024/25 PDF 537 KB Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg / Rheolwr Gwasanaeth Trawsnewid Addysg a Newid Busnes.
CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn y ddogfen polisi (Opsiwn 1).
|
||
Blaenraglen Gwaith: 18 Ebrill 2023 PDF 396 KB Derbyn y flaenraglen gwaith.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Swyddog Craffu a Democrataidd.
CYTUNODD y Pwyllgor i nodi’r Flaenraglen ar gyfer cyfarfod 18 Ebrill 2023.
|
||
Achos busnes dros brynu 2 adeilad i’w defnyddio fel Cartrefi Preswyl Plant Ystyried adroddiad Pennaeth Interim Gwasanaethau Plant.
Cofnodion: Gan roi ystyriaeth i’r farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol yng nghyswllt y prawf budd cyhoeddus, o bwyso a mesur popeth fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.
PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra cynhelid yr eitem hon o fusnes gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14, Rhan 1, Atodlen 12 A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).
Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad Pennaeth Interim Gwasanaethau Plant.
CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad sy’n cynnwys gwybodaeth yn ymwneud â materion ariannol/busnes personau heblaw’r Awdurdod, a bod y Pwyllgor yn:
|