Agenda and minutes

Pwyllgor Craffu Lleoedd - Dydd Mawrth, 31ain Ionawr, 2023 10.00 am

Lleoliad: Ar MS Teams

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais am hynny.

 

Cofnodion:

Nodwyd na chafwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Dywedodd yr Is-gadeirydd fod y Cynghorydd M. Cross, Cadeirydd, yn yr ysbyty ar hyn o bryd yn dilyn trawiad calon. Dywedwyd y cafodd y Cynghorydd Cross lawdriniaeth a’i fod yn gwella’n dda. Dymunodd y Pwyllgor adferiad cyflym i’r Cynghorydd Cross.

 

Cafwyd ymddiheuriad arall gan y Cynghorydd J. Hill.

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.

 

Cofnodion:

Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau neu fuddiant.

 

4.

Pwyllgor Craffu Lle pdf icon PDF 247 KB

Ystyried penderfyniadau’r Pwyllgor Craffu Lle a gynhaliwyd ar 13 Rhagfyr 2022.

 

(D.S. Cyflwynir y penderfyniadau ar gyfer pwyntiau cywirdeb yn unig).

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyiaeth i benderfyniadau y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Rhagfyr 2022.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i gadarnhau’r cofnodion.

 

5.

Dalen Weithredu pdf icon PDF 212 KB

Derbyn y ddalen weithredu.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i’r ddalen weithredu.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn y adroddiad a nodi’r ddalen weithredu.

 

6.

Adroddiad Perfformiad Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol pdf icon PDF 491 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio Gwasanaethau Cymunedol.

 

Cynigiodd yr Is-gadeiydd y byddai’n gam gadarnhaol pe byddai twristiaeth ym Mlaenau Gwent yn cael ei ddablygu ymhellach yn yr ardal.

 

Cafodd y cynnig ei eilio a CHYTUNWYD arno gan y Pwyllgor.

 

Ar hynny CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad a’r wybodaeth a roddir yn yr atodiad a bod yr argymhelliad a nodir uchod ar gyfer gwella yn cael ei ystyried gan y Cabinet (Opsiwn 1).

 

 

7.

Blaenraglen Gwaith: 14 Mwarth 2023 pdf icon PDF 395 KB

Derbyn y flaenraglen gwaith.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Swyddog Craffu a Democrataidd.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn y adroddiad a’r Flaenraglen ar gyer y cyfarfod a drefnwyd.