Agenda and minutes

Pwyllgor Craffu Lleoedd - Dydd Mawrth, 13eg Rhagfyr, 2022 10.00 am

Lleoliad: Ar MS Teams

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na chafwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau..

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd J. Gardener.

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.

 

Cofnodion:

Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.

 

4.

Pwyllgor Craffu Lle pdf icon PDF 333 KB

Ystyried penderfyniadau’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Tachwedd 2022.

(D.S. Cyflwynir y penderfyniadau er cywirdeb yn unig).

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i benderfyniadau’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Tachwedd 2022.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn y penderfyniadau fel cofnod gywir o’r trafodion.

 

5.

Dalen Weithredu pdf icon PDF 204 KB

Derbyn dalen weithredu.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i’r ddalen weithredu.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad a nodi’r ddalen weithredu.

 

6.

Adolygiad Strategaeth Rheoli Gwastraff ac Ailgylchu pdf icon PDF 510 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Cymdogaeth.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad ac ystyriodd y Pwyllgor Craffu Lle y cynnydd a wnaed hyd yma a’r Strategaeth Rheoli Gwastraff ac Ailgylchu a adolygwyd a rhoddwyd sylwadau ac awgrymiadau penodol cyn ei argymell i’r Cabinet ar gyfer ei gymeradwyo (Opsiwn 2).

 

7.

Amserlen Ddiwygiedig Cytundeb Cyflenwi Cynllun Datblygu Lleol pdf icon PDF 797 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Tîm Cynlluniau Datblygu.

 

Nododd Aelod na chafodd Tai Calon ei gynnwys fel ymgynghorai yn y brif ddogfen a CHYTUNODD y Pwyllgor y dylid cynnwys hyn.

 

CYTUNODD y Pwyllgor, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a chefnogi’r Cytundeb Cyflenwi Diwygiedig a’r amserlen, yn amodol ar y diwygiad y soniwyd amdano (Opsiwn 2).

 

8.

Blaenraglen Gwaith: 31 Ionawr 2023 pdf icon PDF 392 KB

Derbyn y flaenraglen gwaith.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Swyddog Craffu a Democrataidd.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad a chytuno ar y Flaenraglen Waith ar gyfer y cyfarfod a drefnwyd i gael ei gynnal ar 31 Ionawr 2023, fel y’i cyflwynwyd (Opsiwn 2).