Agenda and minutes

Pwyllgor Craffu Lleoedd - Dydd Mawrth, 8fed Tachwedd, 2022 10.00 am

Lleoliad: Ar MS Teams

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd
R. Leadbeater (Is-gadeirydd).

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.

 

Cofnodion:

Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.

 

4.

Pwyllgor Craffu Lle pdf icon PDF 330 KB

Derbyn cofnodion y Cyfarfod Craffu Lle a gynhaliwyd ar 20 Medi 2022.

 

(Dylid nodi y cyflwynir y cofnodion er pwyntiau cywirdeb yn unig).

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i benderfyniadau’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Medi 2022.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i gadarnhau’r cofnodion.

 

5.

Dalen Weithredu pdf icon PDF 118 KB

Derbyn y ddalen weithredu.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i’r camau gweithredu yn deillio o gyfarfod y Pwyllgor Craffu Adfywio a gynhaliwyd ar 9 Chwefror 2022.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i nodi’r ddalen weithredu.

 

6.

Cynllun Creu Lleoedd Tredegar pdf icon PDF 558 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo’r Cynllun Creu Lle, ei weledigaeth ac uchelgeisiau craidd ar gyfer y dyfodol. Byddai hyn yn galluogi’r Cyngor i gwblhau drafft y cynllun cyflenwi a’r camau tuag at weithredu’r prosiectau a fyddai’n cael ei gynnwys o’i fewn (Opsiwn 2).

 

7.

Gwasanaethau Diogelu’r Cyhoedd a Gorfodaeth Amgylcheddol – Polisi Gorfodaeth Diwygiedig pdf icon PDF 489 KB

Ystyried adroddiad Rheolwr Gwasanaeth Diogelu’r Cyhoedd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Diogelu’r Cyhoedd.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad a chefnogi mabwysiadu Polisi Diogelu’r Cyhoedd a Gorfodaeth Amgylcheddol a amlinellir yn Atodiad 1, a gwneud unrhyw argymhellion, fel sydd angen, i gael eu hystyried gan y Cyngor. Byddai’r polisi wedyn yn cael ei adolygu’n ffurfiol bob pum mlynedd i’w gymeradwyo gan y Cyngor, neu’n gynharach os bernir bod angen hynny (Opsiwn 1).

8.

Blaenraglen Gwaith: 13 Rhagfyr 2022 pdf icon PDF 396 KB

Derbyn y flaenraglen gwaith.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i’r Flaenraglen Gwaith.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn y Flaenraglen Gwaith ar gyfer y cyfarfod a gynhelir ar 13 Rhagfyr 2022, fel y’i cyflwynwyd (Opsiwn 2).