Lleoliad: Cyfarfod hybrid i’w gynnal yn rhithiol ar MS Teams yn Ystafell Syr William Firth, Swyddfeydd Cyffredinol, Glynebwy
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais am hynny.
Cofnodion: Nodwyd na chafwydd unrhyw geisiadau am y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau.
Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd G. Davies.
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.
Cofnodion: Adroddwyd y datganiad buddiant dilynol:-
Cynghorydd W. Hodgins Eitem Rhif 7 – Adroddiad Perfformiad Diwedd Blwyddyn 2022/23 Cyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymunedol ac Adfywio
|
|
Ystyried penderfyniadau’r Pwyllgor Craffu Lle a gynhaliwyd ar 20 Mehefin 2023. (D.S. Cyflwynir y penderfyniadau er pwyntiau cywirdeb yn unig). Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i benderfyniadau’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Mehefin 2023.
Dywedwyd y dylai’r dyddiad ar y penderfyniadau fod yn 20 Mehefin 2023 ac nid 19 Mehefin 2023 fel a nodwyd.
CYTUNODD y Pwyllgor, yn amodol ar yr uchod, y dylid derbyn y penderfyniadau fel cofnod gywir o drafodion.
|
|
Derbyn y Ddalen Weithredu yn deillio o’r Pwyllgor Craffu Lle a gynhaliwyd ar 20 Mehefin 2023.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i’r ddalen weithredu.
CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad a nodi’r ddalen weithredu.
|
|
Blaenraglen Waith Arfaethedig 2023/24 PDF 90 KB Ystyried adroddiad y Swyddog Craffu a Democrataidd.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Swyddog Craffu a Democrataidd.
Cytunodd y Cadeirydd ac Aelodau’r Pwyllgor symud Cynllun Creu Lle Abertyleri.
CYTUNODD y Cyngor, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad ac awgrymwyd diwygiadau cyn cytuno ar y Flaenraglen Gwaith (Opsiwn 2).
|
|
Adroddiad Diwedd Blwyddyn 2022/23 y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymunedol ac Adfywio PDF 157 KB Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.
CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad a derbyniodd yr Aelodau fel y’i darparwyd (Opsiwn 2).
|